Petroliwm
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Tanwydd ffosil yw petroliwm neu olew crai sy'n cael ei echdynnu o'r ddaear mewn gwledydd ar draws y byd, ond yn enwedig yn y Dwyrain Canol, yr UDA, Rwsia a Feneswela. Mae'n adnodd anadnewyddadwy a defnyddir i wneud petrol, plastig ayyb. Mae petroliwm yn hylif tew brown tywyll fel arfer, sy'n cynnwys cymysgedd cymhleth o hydrocarbonau fflamadwy. Caiff y petroliwm ei buro i roi amryw o ffracsiynau trwy broses o ddistyllu ffracsiynol.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Ffurfiant
Mae dwy theori yn bodoli am ffurfiant olew: theori ffurfiant biolegol a theori ffurfiant anfiolegol. Y prif theori yw'r thoeri ffurfiant biolegol, a phrin yw'r daearegwyr sy'n cefnogi'r theori anfiolegol.
[golygu] Theori ffurfiant biolegol
Yn ôl y theori ffurfiant biolegol, casglodd microorganebau morol marw ar waelod y môr. Gorchyddiwyd y gwaddodion organig hyn gan waddodion anathraidd. Ar ôl miliynau o flynyddoedd o dymheredd uchel a gwasgedd sylweddol, caiff y defnydd organig ei ffosileiddio i ffurfio olew crai trwy'r broses o bydredd anaerobig. Nid yw'r olew crai yn hydawdd mewn dŵr, ac mae'n llai dwys felly mae'n arnofio ar wynbeb dŵr. Wrth i ddŵr godi, mae'n gwthio'r olew i fyny tua'r wyneb nes caiff yr olew ei ddal mewn man lle mae'r creigiau athraidd yn cael eu gorchyddio gan creigiau anathraidd. Ffurfir cronfa olew mewn haen plyg o'r craig athraidd, ac mae'r olew yn cael ei ddal yma. Mae'r broses hon yn debyg iawn i broses ffurfiant nwy naturiol.
Hon yw'r theori sy'n cael ei gredu gan y mwyafrif llethol o wyddonwyr, yn enwedig y daearegwyr sy'n chwilio am gronfeudd olew newydd. Nid oes unrhyw cwmni olew ar hyn o bryd yn seilio eu rhaglen archwilio ar unrhyw theori ffurfiant arall.
[golygu] Theori ffurfiant anfiolegol
Yn ôl y theori hon ni ffurfiwyd olew o ddefnydd organig marw, ond o fethan a oedd ar ôl dan y ddaear ers ei ffurfiant. Mae'r moleciwlau biolegeol yn yr olew yn rhai sy'n dod o ficroorganebau yn y creigaiu wrth iddynt casglu yn yr olew.
[golygu] Diwydiant
Caif yr olew crai ei echdynnu o'r ddaear gan gwmnïau olew trwy yn gyntaf drilio i lawr drwy'r creigiau anathraidd. Mae'r gwasgedd sylweddol yn y cronfa olew yn achosi'r olew i ddod i'r wyneb. Fel arfer, cludir yr olew i burfeydd olew ar long arbennig a elwir yn dancer olew neu drwy bibell cludo olew. Yn y purfeydd olew, caiff yr olew ei wahanu i'w rhannau trwy broses o ddistylliad ffracsiynnol. Mae'r broses hon yn gwahanu'r olew ar sail ei berwbwynt i arunigo nifer o ffracsiynnau gwahanol. Mae'r rhain yn cynnwys (yn nhrefn eu berwbwyntiau cynyddol) nwy petroliwm, petrol, nafftha, cerosin, diesel, olew iro, olew tanwydd, bitwmen a chynhyrchion olew eraill. Caiff y ffranciynnau hyn eu defnyddio fel tanwyddau (petrol, cerosin, diesel) neu fel ffynhonellau o gemegau organig.
Mae'r mwyafrif o wledydd sydd yn cynhyrchu olew ar raddfa sylweddol yn aelodau o OPEC sydd yn ceisio dylanwadu'r pris olew crai rhyngwladol trwy rheoli faint o olew caiff ei gynhyrchu.
[golygu] Ystadegau cynhyrchiad a threuliad olew
Cynhyrchiad | Treuliad | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
oddi wrth: Ystadegau gweinyddiaeth diwydiant Ffrainc |
oddi wrth: Ystadegau gweinyddiaeth diwydiant Ffrainc |