Sif
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae'r dduwies Lychlynaidd Sif (Sif Wallt Euraidd) yn wraig i Thor.
Fel mae ei gwallt hir euraidd yn awgrymu, roedd hi'n dduwies ffrwythlondeb yn wreiddiol, yn cynrychioli tyfiant aeddfed y ddaear ac yn neilltuol cnydau Awst.
Mae un chwedl yn adrodd sut y bu i Loki (duw maleisus a chyfrwys sydd yn cynrychioli'r gaeaf, efallai, ym mytholeg y Gogledd) dorri gwallt Sif a'i ddwyn i'r Isfyd. Bu ymrafael mawr rhyngddo a Thor wedyn.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.