Stadiwm y Mileniwm
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Stadiwm y Mileniwm yn sefyll yng Nghaerdydd, ar lan Afon Taf. Dyma stadiwm cenedlaethol Cymru. Dyma'r maes pêl-droed mwyaf ym Mhrydain, ond mae disgwyl y bydd stadiwm Wembley yn Llundain yn fwy pan orffennir adeiladu hwnnw tua 2007. Undeb Rygbi Cymru yw perchennog y stadiwm.
Fe'i hadeiladwyd yn 1999, ar gyfer Cwpan Byd Rygbi'r Undeb Fe gostiodd £126 miliwn i Undeb Rygbi Cymru ac fe'i hariannwyd gan fuddsoddiad preifat, arian y Loteri a benthyciadau.
Fe'i defnyddiwyd am y tro cyntaf ar 26 Mehefin 1999 pan chwaraeodd Cymru yn erbyn De Affrica.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
[golygu] Cysylltiad allanol
- (Saesneg) Stadiwm y Mileniwm