Teyrnas Ceredigion
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Yr oedd Teyrnas Ceredigion yn un o deyrnasoedd cynnar Cymru. Roedd ei thiriogaeth yn gyfateb yn fras i'r sir bresennol, Ceredigion.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
Yn ôl traddodiad sefydlwyd teyrnas Ceredigion gan Ceredig (Ceretic), un o wyth fab Cunedda Wledig a ddaeth i ogledd Cymru o'r Hen Ogledd yn hanner cyntaf y 4edd ganrif a sefydlu teyrnas Gwynedd.
Ar ddechrau'r 8fed ganrif rheolai'r brenin Seisyll ap Clydog yng Ngheredigion. Tua'r flwyddyn 730 ychwanegodd Ystrad Tywi i'r deyrnas; Seisyllwg oedd enw'r deyrnas estynedig newydd.
Cofnodir marwolaeth Arthen, brenin Ceredigion yn yr Annales Cambriae am 807, ynghyd â diffyg ar yr haul.
Ar farwolaeth Gwgon ap Meurig yn 871 dirywio fu hanes y deyrnas. Mae'r Annales Cambriae yn cofnodi anrheithio Ceredigion ac Ystrad Tywi gan Anarawd a llu o Eingl yn 894. Erbyn hanner cyntaf y 10fed ganrif roedd hi'n rhan o Ddeheubarth dan reolaeth Hywel Dda.
[golygu] Traddodiadau cynnar
Yn ei bennod ar Ryfeddodau Prydain yn ei lyfr Historia Brittonum mae Nennius yn sôn am fynydd o'r enw Crug Mawr gyda bedd (carnedd efallai) ar ei gopa a gyflawnai wyrthiau.
[golygu] Cantrefi a chymydau
Rhennid Cerdigion yn dri chantref a sawl cwmwd:
-
- PENWEDDIG - cymydau Genau'r Glyn, Creuddyn, a Pherfedd
- UWCH AERON (ystyrid Cantref Penweddig yn rhan o ardal Uwch Aeron yn aml) - cymydau Mefenydd, Anhuniog, Penardd
- IS AERON - cymydau Caerwedros, Mabwnion, Cwmwd Is Coed, Gwinionydd
[golygu] Brenhinoedd
- Ceredig ap Cunedda
- Seisyll ap Clydog
- Gwgon ap Meurig - brenin olaf Ceredigion (m. 871)
[golygu] Llyfryddiaeth
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Teyrnasoedd Cymru | ![]() |
---|---|
Brycheiniog | Ceredigion | Deheubarth | Dyfed | Glywysing | Gwent | Gwynedd | Gŵyr | Morgannwg | Powys |