Ucheldiroedd Golan
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
- Am enghreifftiau eraill o'r enw, gweler Golan.
Rhanbarth o ucheldir fynyddig yn y Lefant sy'n gorwedd rhwng Libanus, Syria, Israel a Gwlad Iorddonen yw Ucheldiroedd Golan (Hebraeg: רמת הגולן Ramat HaGolan, Arabeg: هضبة الجولان Harbat al-Golan). Mae eu meddiant wedi bod yn asgen cynnen rhwng y ddwy wlad honno ers degawdau. Yn gyffredinol mae'r enw yn cyfeirio at y rhanbarth ddaearyddol a hanesyddol honno, ond fe'i defnyddir weithiau i gyfeirio at y rhan ohono a feddianir gan Israel heddiw.
Cipiodd Israel y Golan oddi ar Syria yn y Rhyfel Chwech Diwrnod yn 1967 ac eto yn 1973 yn Rhyfel Yom Kippur. Yn 1981 hawliodd Israel y diriogaeth trwy Ddeddf Ucheldiroedd Golan. Mae Syria yn hawlio'r diriogaeth iddi ei hun. Mae'r Cenhedloedd Unedig yn galw ar Israel i adfer y tir i Syria.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.