Ventimiglia
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Dinas ar y Riviera yn yr Eidal ddim yn bell o'r ffin gyda Ffrainc yw Ventimiglia. Sillafiaeth arall yw XXmiglia (XX = venti : ugain). (Gelwir hi'n Ventimille yn Ffrangeg).
Mae Ventimiglia ar aber y Roia / Roya. Gellir croesi'r bont i'r hen ddinas ar ben y bryn (Città Vecchia) lle mae'r eglwys gadeiriol (11/12fed ganrif).
- Fe fydd trênau Ffrainc yn aros yng ngorsaf Ventimiglia lle gellir newid i drênau'r Eidal er mwyn dal ymlaen gyda'r daith.
- Mae marchnad fawr yn y sgwâr ger y traeth bob dydd Gwener a fe fydd nifer fawr yn mynd yno o Ffrainc gerllaw.
- Mae gerddi Hanbury (gardd o blanhigion estron) gerllaw yn Mortola Inferiore ger y ffin gyda Ffrainc.