Wasiristan
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae talaith Wasiristan (neu Waziristan) yn Diriogaeth Lwythol sy'n gorwedd rhwng Talaith Ffin y Gogledd-orllewin (NWFP) a Balochistan yng ngorllewin Pacistan, ar y ffin ag Affganistan.
Mae'n ardal fynyddig ac anghysbell. Mae'r mwyafrif llethol o'r trigolion yn Wasiriaid, un o lwythi Pathan y Ffin.
Rhennir y dalaith yn ddwy ran, sef Gogledd Wasiristan a De Wasiristan.
Mae'r prif drefi yn cynnwys Miram Shah, Razmak a Wana, ond mae'r rhan fwyaf o'r Wasiriaid yn byw mewn pentrefi bychain yn y bryniau.
Mae'r Wasiriaid yn bobl falch ac annibynnol ac wedi ymladd i gadw eu hannibyniaeth yn y gorffennol, er enghraifft yn erbyn lluoedd Indiaidd Prydain yn y 1930au.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.