William Jones (nofel)
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Nofel gan T. Rowland Hughes yw William Jones, a gyhoeddwyd ym 1944.
Mae'n sôn am hanes chwarelwr yng Ngwynedd sy'n penderfynu gadael ei gymuned i chwilio am waith yn nglofeydd y De.
Mae'n disgrifio bywyd caled y chwarelwyr ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, a hwyrach mai hon yw'r unig nofel Gymraeg sydd yn rhoi darlun o fywyd yng nghymoedd y De diwydiannol tan i Gwenallt ysgrifennu ei nofel yntau Ffwrneisi. Ceir ynddi yr ymadrodd "Cadw dy blydi chips!", sef mae'n debyg y tro cyntaf i reg ymddangos mewn llenyddiaeth Gymraeg (mewn llenyddiaeth ddiweddar, o leiaf).
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.