Y Gymanwlad
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Cymdeithas gwledydd annibynol yw'r Gymanwlad. Y Deyrnas Unedig a'i chyn wladfeydd yw mwyafrif llethol aelodau'r Gymanwlad. Ail dydd Iau mis Mawrth yw Dydd y Gymanwlad.
Mae brenin Lloegr yn ben gwladwriaeth mewn nifer o aelod-wladwriaethau, sef yn Nheyrnasau y Gymanwlad. Mae mwyafrif aelodau y Gymanwlad yn weriniaethau neu yn deyrnasau. Ond mae pawb yn cydnabod y Frenhines Elisabeth II fel pen y Gymanwlad.
[golygu] Hanes ac aelodaeth
Olynydd yr Ymerodraeth Prydeinig yw'r Gymanwlad. Dechrau ffurfiol y Gymanwlad oedd y Cynadleddau Imperialaidd tua diwedd y 1920au, sef cynadleddau o Brif Weinindogion Prydain a'i (chyn)wladfeydd. Yn y cynadleddau hyn fe gydnabyddwyd annibyniaeth gwladfeydd a oedd yn rheoli eu hunain. Fe gydnabyddwyd perthynas gyfartal gwledydd y Gymanwlad yn fffurfiol yn Statud Westminster ym 1931.
Wedi'r ail ryfel byd roedd yr Ymerodraeth Brydeinig yn datgymalu o dipyn i beth. Roedd nifer cynyddol y cyn wladfeydd yn ennill eu hannibyniaeth yn rhannol oherwydd twf mudiadu dros annibyniaeth (fel ag yn yr India o dan ddylanwad Mohandas Gandhi) ac yn rhannol oherwydd bod llywodraeth Prydain o dan straen cyllidol wedi'r Ail Ryfel Byd. Fe ymunodd pob gwladfa flaenorol heblaw am ambell wlad tebyg i Burma (a elwir yn awr yn Myanmar; 1948) a De Yemen (1967). Bu Iwerddon yn aelod hefyd, ond gadawodd wedi iddi droi yn weriniaeth ym 1949. Ar hyn o bryd mae tua 30% o boblogaeth y byd yn drigolion y Gymanwlad.
Gall pa wlad bynnag sy'n cydnabod amcanion y Gymanwlad ymuno, ond fel arfer mae'n rhaid bod cysylltiad cyfansoddiadol rhwng yr aelod â'r DU neu unrhwy aelod arall y Gymanwlad. Gan hynny, mae rhai gwledydd y Môr Tawel yn aelodau yn sgil eu cyn rwymau ag Awstralia. Mae Namibia yn aelod oherwydd iddi gael ei rheoli gan De Affrica o 1920 hyd at 1990, sef blwyddyn ei hannibyniaeth. Ymunodd Camerŵn ym 1995 serch nad ond rhan fechan o'r wlad oedd wedi ei weinyddu gan Brydain. Yn eithriad nad oedd i osod cynsail cafodd Mosambic ymuno er nad oedd eriod wedi ei reoli gan Brydain nag unrhyw aelod arall y Gymanwlad.
Gwaharddwyd aelodaeth Ffiji a Phacistan am amser o achos cwymp eu llwyodraeth democrataidd a sefydliad llywodraeth milwrol. Gwaharddwyd De Affrica yn ystod adeg Apartheid ac ni ailgydiodd yn ei haelodaeth hyd at 1994. Gwaharddwyd Nigeria rhwng 1995 a 1999 a Simbabwe ers 2002 oherwydd problemau polisiau Robert Mugabe.
[golygu] Strwythr ac amcanion
Elisabeth II yw pen y sefydliad. Ers 1965 mae Swyddfa'r Gymanwlad yn Llundain. Ar hyn o bryd Don MacKinnon, a oedd gynt yn Weinidog Tramor Seland Newydd, yw Ysgrifennydd Cyffredinol y Gymanwlad.
Mae cynhadledd yr aelod-wladwriaethau yn digwydd bob yn ail flwyddyn. Er bod hynny yn gyfle i bobl o wledydd cyfoethog a gwledydd tlawd siarad a phenderfynu gyda'i gilydd, bu y berthynas rhwng Prydain a gwledydd Affrica yn oeri ers problemau Rhodesia, yn y 1970au, ac apartheid yn Ne Affrica, yn y 1980au. O ganlyniad, bu aelodau yn cryfhau eu perthynas â gwledydd eraill ac yn sgil hynny lleihaodd nerth gwleidyddol ac economaidd y Gymanwlad.
Heddiw, hybu cydweithrediad rhwng gwledydd, cryfhau iawnderau dynol a democratiaeth yw gwaith pennaf y Gymanwlad.
[golygu] Aelodau
(yn nhrefn y cyfandiroedd a blwyddyn eu hymuno)
- De America
- Guyana (1966)
- Affrica
- De Affrica (1931; gadawodd ym 1961 ond ail-ymunodd ym 1994)
Simbabwegwaharddwyd ym 2002 a gadawodd ym 2003- Ghana (1957)
- Nigeria (1960; gwaharddwyd ym 1995 ond ail-ymunodd ym 1999)
- Sierra Leone (1961)
- Tansania (1961)
- Iwganda (1962)
- Cenia (1963)
- Malaŵi (1964)
- Sambia (1964)
- Y Gambia (1965)
- Botswana (1966)
- Lesotho (1966)
- Mawrisiws (1968)
- Gwlad Swasi (1968)
- Seychelles (1976)
- Namibia (1990)
- Mosambic (1995)
- Camerŵn (1995)
Aelodau gwaharddedig ar hyn o bryd:
Cyn aelodau: