Yr Horn
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
- Gweler hefyd Penrhyn (gwahaniaethu).
Penrhyn mwyaf deheuol De America yw'r Horn ( 55° 59' lledred deheuol, 67° 16' hydred gorllewinol). Y bobl cyntaf i hwylio rownd yr Horn oedd Willem Cornelis Schouten a Jacob Le Maire, morwyr o'r Iseldiroedd, ar 26 Ionawr, 1616, ac felly fe'i enwyd ar ôl y dref lle ganwyd Schoutens, Hoorn yn yr Iseldiroedd.
Dydi'r Horn ddim ar gyfanfir De America ei hun ond ar Ynys Hornos sydd yn perthyn i Tierra del Fuego. Penhryn mwyaf deheuol y cyfandir ei hun yw gorynys Brunswick sydd tua 260km i'r gogledd.
Cyn adeiladu Camlas Panamá (agorwyd ym 1914) yr oedd rhaid fynd o gwmpas yr Horn pan yn teithio o Gefnfor Iwerydd i'r Cefnfor Tawel - neu i'r gwrthwyneb - ar long, heblaw am fynd o gwmpas Penrhyn Gobaith Da ac Asia. Beth bynnag, roedd hwylio rownd yr Horn yn beryglus iawn am fod y gwynt o'r gorllewin yn cryf iawn a'r tonnau yn uchel ac felly roedd pawb yn ei ofni, yn bennaf pan yn mynd o'r dwyrain i'r gorllewin. Roedd llawer o longau yn hwylio trwy Gulfor Magellan i'r gogledd, rhwng ynysoedd Tierra del Fuego a'r tir mawr, i osgoi'r Horn, ond roedd hwylio trwy'r culfor yn cymryd llawer mwy o amser.