Ysgol (addysg)
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Am defnydd arall o'r gair "ysgol", gwelwch Ysgol (gwahaniaethu)
Lle a ddynodir ar gyfer addysgu yw ysgol. Fel arfer y mae'n sefydliad lle mae disgyblion neu fyfyrwyr, sydd fel arfer yn blant neu yn bobl ifainc, yn dysgu drwy law athrawon. Lle canolog y dysgu fel arfer yw'r ystafell ddosbarth, ond dim o angenrheidrwydd bob amser. Gall y dysgu fod mewn labordy er engraifft, neu hyd yn oed yn yr awyr agored.
Mae'r math o sefydliad a ddisgrifir fel ysgol yn amrywio o wlad i wlad.
Yng Nghymru ceir addysg i blant unarddeg oed a than hynny mewn ysgolion cynradd, ac o unarddeg tan ddeunaw oed mewn ysgolion uwchradd os oes ganddynt chweched dosbarth, ac o unarddeg tan 16 oed os nad oes gandddynt chweched dosbarth. Lle nad oes chweched dosbarth bydd y plant sydd am ddilyn addysg uwch yn mynychu Coleg Trydyddol.
Gelwir ysgolion cynradd sy'n dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn Ysgolion Cymraeg a'r ysglion uwchradd sy'n dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn neu Ysgol Ddwyieithog.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.