Athenry
Oddi ar Wicipedia
Mae Athenry (Gwyddeleg: Baile Átha an Rí, 'Tref Rhyd y Brenin') yn dref fach ger dinas Galway, gorllewin Iwerddon, ar y rheilffordd Dulyn-Galway.
Yn y dref mae castell a godwyd gan y Normaniaid a phriordy yn perthyn i Urdd y Dominiciaid.
Heddiw mae'r dref yn enwog am y gân The Fields of Athenry. Ysgrifenwyd y gân yn y saithdegau gan Pete St. John yn adrodd hanes Y Newyn Mawr (Gwyddeleg: An Gorta Mór) a'r trawsgludiad o Iwerddon i Awstralia.