Berber
Oddi ar Wicipedia
Mae Berber yn iaith Affro-Asiaidd a siaredir yn bennaf yn y Maghreb, gogledd Affrica.
Berber yw iaith frodorol y Berberiaid. Ar un adeg roedd hi'n cael ei siarad o Foroco yn y gorllewin i Ddiffeithwch Libya yn y dwyrain. Ildiodd dir yn raddol yn sgîl y concwest Arabaidd yn y 6ed ganrif. Ei chadarnleodd erbyn heddiw yw Morocco a rhannau o Algeria. Ceir ychydig o siaradwyr Berber yng ngorllewin Tunisia yn ogystal. Mae rhai pobl yn dal i siarad tafodiaith Ferber ynysig yn ngwerddon Siwa, gorllewin Yr Aifft.
[golygu] Llên a diwylliant
Am ganrifoedd roedd llenyddiaeth Ferber yn llenyddiaeth lafar yn bennaf. Mae'n gyfoethog mewn chwedlau llên gwerin ac mae ganddi draddodiad barddol hynafol sy'n dal i flodeuo heddiw. Un o feirdd mwyaf nodedig yr iaith Ferber yw'r Berberiad o Algeria, Si Muhand U M'hand (tua 1845 - 1905).
[golygu] Gweler hefyd
- Kabylie
- Berberiaid