Cáceres
Oddi ar Wicipedia
Dinas yng ngorllewin Sbaen yw Cáceres, yng nghymuned ymreolaethol Extremadura. Roedd y boblogaeth yn 91,606 yn 2007.
Sefydlwyd y dref gan y Rhufeiniaid. Yn ddiweddarach bu'n eiddo'r Fisigothiaid a'r Mwslimiaid, cyn i Alfonso IX, brenin León, ei chipio ar 23 Ebrill 1229, wedi gwarchae hir. Daeth yn ddinas yn 1882.
Yn 1986 cyhoeddwyd hen ddinas Cáceres yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.
Mae gan Gomin Wicifryngau gyfryngau sy'n berthnasol i: