Cyrdistan
Oddi ar Wicipedia
Cyrdistan (Cwrdeg: Kurdistan/كوردستان, "Gwlad y Cyrdiaid" yw'r enw am y diriogaeth lle mae'r Cyrdiaid yn byw. Mae'n ardal o fynyddoedd a llwyfandir uchel, yn cynnwys Mynyddoedd Zagros. Ceir tarddle Afon Tigris ac Afon Ewffrates yma. Yn wleidyddol, mae'n cynnwys rhannau o ddwyrain Twrci, gogledd Irac, gogledd-orllewin Iran a rhannau llai o ogledd Syria ac Armenia.
Cyrdistan Iracaidd yw'r unig ran sydd wedi cael mesur o hunanlywodraeth hyd yn hyn.