Deddf yr Iaith Gymraeg 1993
Oddi ar Wicipedia
- Gweler hefyd Deddf yr Iaith Gymraeg 1967.
Deddf a sefydlodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg i hwyluso a hybu'r defnydd o'r Gymraeg oedd Deddf yr Iaith Gymraeg 1993. Mae'r ddeddf yn mynnu y dylid cyrff cyhoeddus a llysoedd barn drin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal yng Nghymru. Prif delerau'r ddeddf oedd:
- gorfodi cyrff cyhoeddus yng Nghymru i ddarparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg ac i baratoi cynllun i ddangos sut maen nhw'n bwriadu defnyddio'r iaith
- rhoi hawl i ddefnyddio'r Gymraeg mewn llys barn yng Nghymru
- rhoi'r hawl i gwmnïoedd ac i elusennau ddefnyddio rhai dogfennau swyddogol yn Gymraeg heb gyfieithiad i'r Saesneg
- creu Bwrdd yr Iaith Gymraeg i oruchwylio defnydd o'r iaith gan gyrff cyhoeddus ac i gymeradwyo cynlluniau iaith cyrff cyhoeddus
Roedd y ddeddf yn rhoi hawl i Ysgrifennydd Gwladol Cymru benodi 15 aelod o'r Bwrdd. Gyda sefydliad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mae'r hawl i benodi aelodau i'r Bwrdd wedi pasio i'r cynulliad.
Mae’r ddeddf hon wedi bod yn bwnc llosg ers cyn ei derbyn. Cafodd y ddeddf ei phasio gan fwyafrif ond ni wnaeth mwyafrif ASau Cymru ei chefnogi. Yn wir, ni fyddai wedi llwyddo oni bai am gefnogaeth Ceidwadwyr o Loegr. Gwrthododd Rhodri Morgan gefnogi'r ddeddf ym 1993, gan ddweud:
"The Government calls this a Welsh Language Bill, but it would be better described as a Welsh Language Quango Bill. What one could call a Quango for the lingo ...... We shall be abstaining tonight because we hope to have the opportunity before long to do the job properly. That will be done when we revisit the question of a Welsh language messure when we are in Government."
Yn y nawdegau, cyfeiriwyd ati fel enghraifft glasurol pam bod angen datganoli a chynulliad i Gymru. Beirniedir y ddeddf gan rai, yn enwedig Cymdeithas yr Iaith am nad oes gorfodaeth ar y sector breifat i gydymffurfio â’i gofynion. Mae Cymdeithas yr Iaith hefyd wedi beirniadu'r ddeddf yn llym am nad yw'n ymdrin â phroblemau cymunedau gwledig Cymraeg eu hiaith.
[golygu] Dolenni allanol
- (Saesneg) Testun Deddf Iaith 1993