Dirwasgiad Mawr
Oddi ar Wicipedia
Roedd y Dirwasgiad Mawr (Saesneg: The Great Depression) yn gyfnod o ddirywiad economaidd enbyd, a ddechreuodd gyda chwymp y farchnad stoc ar 29 Hydref, 1929, sy'n adnabyddus fel Cwymp Wall Street neu 'Dydd Mawrth Du' (Black Tuesday).
Dechreuodd yn yr Unol Daleithiau ac ymledodd yn gyflym i Ewrop a phob rhan o'r byd bron, gyda chanlyniadau ysgytwol yn y gwledydd diwydiannol ynghyd â'r gwledydd a ddibynnai arnynt i allforio nwyddau crai. Aeth masnach ryngwladol i lawr yn gyflym, yr un modd ag enillion personol, refeniw o drethi, prisiau ac elw. Tarwyd nifer o ddinasoedd ledled y byd, yn enwedig y rhai a ddibynnai ar ddiwydiant trwm. Daeth gwaith adeiladu i ben bron mewn nifer o wledydd. Dioddefodd ffermio ac ardaloedd gwledig yn ogystal wrth i brisiau cnydau gwympo rhwng 40 i 60 y cant. Gwelwyd yr effaith yn arbennig o drwm ar y diwydiant glo a mwyngloddio wrth i'r alwad am eu cynnyrch ddisgyn yn sylweddol iawn a chan nad oedd dewis gwaith amgen i'r rhan fwyaf o'r gweithwyr.
Sefydlwyd rhaglenni cymorth ac adnewyddu gan nifer o wledydd ond un canlyniad o'r argyfwng economaidd oedd yr ansefydlogrwydd gwleidyddol a ddaeth yn ei sgîl, gyda thyfiant mawr mewn pleidiau asgell dde ac asgell chwith eithafol, streiciau, protestiadau, a rhyfeloedd cartref. Roedd seiliau democratiaeth dan fygythiad a gwelwyd unbeniaid fel Hitler, Stalin, Franco a Mussolini yn tyfu mewn grym a gwleidyddiaeth y byd - yn arbennig yn Ewrop - yn polareiddio, gan osod y llwyfan ar gyfer yr Ail Ryfel Byd yn 1939.
[golygu] Gweler hefyd
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.