Gerallt Lloyd Owen
Oddi ar Wicipedia
Mae Gerallt Lloyd Owen (1944- ) yn fardd o Gymro, a aned yn Sarnau, Sir Feirionnydd (de Gwynedd heddiw). Mae'n un o brif feistri'r gynghanedd. Sefydlodd Wasg Gwynedd yn 1972. Mae'n cadeirio'r ymryson barddol Talwrn y Beirdd.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Cefndir
Cafodd ei addysg yn y Coleg Normal, Bangor. Ar ôl treulio cyfnod o bum mlynedd fel athro sefydlodd Wasg Gwynedd yn 1972. Er i'w gyfrol gyntaf ddod allan yn 1966, ni ddaeth yn ffigwr amlwg nes iddo gyhoeddi Cerddi'r Cywilydd yn 1972.
[golygu] Ei waith llenyddol
Nodweddir ei farddoniaeth gan ymdeimlad cryf am Gymreictod a phwyslais ar etifeddiaeth y Cymry a'r angen i'w hamddiffyn. Gwelir hyn yn arbennig o eglur mewn cerddi fel yr awdl Cilmeri, am dranc Llywelyn ap Gruffudd, a'r gerdd Fy Ngwlad (Cerddi'r Cywilydd) am yr arwisgiad yng Nghaernarfon sy'n agor efo'r llinellau cofiadwy,
- 'Wylit, wylit, Lywelyn,
- Wylit waed pe gwelit hyn.
- Ein calon gan estron ŵr,
- Ein coron gan goncwerwr,
- A gwerin o ffafrgarwyr
- Llariaidd eu gwên lle'r oedd gwŷr.'
Ond mae gan ei awen agwedd bersonol hefyd, yn ei gerddi am gyfeillion a pherthnasau, a'i gariad amlwg at ei fro. Mae'n medru bod yn ffraeth yn ogystal, er enghraifft yn ei gerdd Trafferth mewn siop (yn y gyfrol Cilmeri) am gael gwrthod talu â siec yn y Gymraeg yn siop Marks and Spencers, Llandudno, sy'n adleisio cerdd adnabyddus Dafydd ap Gwilym Trafferth mewn Tafarn.
Cyhoeddodd hunangofiant difyr yn 1999 dan y teitl Fy Nghawl Fy Hun. Mae wedi golygu sawl cyfrol yn y gyfres Talwrn y Beirdd yn ogystal a bu'n gyd-olygydd ar y cylchgrawn Barddas am gyfnod.
[golygu] Llyfryddiaeth
[golygu] Cerddi
- Ugain Oed a'i Ganiadau (1966)
- Cerddi'r Cywilydd (Gwasg Gwynedd, 1972)
- Cilmeri a cherddi eraill (Gwasg Gwynedd, 1991)
[golygu] Hunangofiant
- Fy Nghawl Fy Hun (Gwasg Gwynedd, 1999)