Gwlff Persia
Oddi ar Wicipedia
Mae Gwlff Persia neu Gwlff Arabia, neu yn aml Y Gwlff yn estyniad o Gefnfor India sy'n gwahanu Iran oddi y gwledydd Arabaidd megis Saudi Arabia. Gwledydd eraill sydd ag arfordir ar y Gwlff yw Irac, Kuwait, Yr Emiradau Arabaidd Unedig, Qatar ac Oman, tra mae Bahrain yn ynys yn y Gwlff. Oherwydd fod rhan helaeth o olew y byd yn dod o'r ardal yma, mae o bwysigrwydd strategol eithriadol ac mae nifer o ryfeloedd wedi eu hymladd yma. Heblaw olew, mae Gwlff Persia yn nodedig am ei gyfoeth mewn pysgod a pherlau, ond mae wedi ei ddifrodi i raddau gan y diwydiant olew yn y blynyddoedd diwethaf.
Mae arwynebedd y Gwlff tua 233,000 km². Ar yr ochr ddwyreiniol mae Culfor Hormuz yn ei gysylltu a Gwlff Oman. Ar yr ochr orllewinol, mae'r Shatt al-Arab, lle mae Afon Ewffrates ac Afon Tigris yn cyrraedd y môr. Nid yw'n ddyfn iawn, tua 90 m. yn y man dyfnaf a thua 50 m. ar gyfartaledd.
Er bod yr enw "Gwlff Persia" yn cael ei gofnodi cyn belled yn ôl a'r awduron clasurol, nid yw llawer o'r gwledydd Arbaidd o gwmpas y Gwlff yn ei dderbyn, gan ei fod yn awgrymu fod gan Iran hawl arno. Mae nifer o'r gwledydd hyn yn defnyddio Gwlff Arabia (Arabeg: الخلیج العربي al-khalīj al-ʿarabī) amdano.