Hutan y Mynydd
Oddi ar Wicipedia
Hutan y Mynydd | ||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | ||||||||||||||
|
||||||||||||||
Enw deuenwol | ||||||||||||||
Charadrius morinellus (Linnaeus, 1758) |
Mae Hutan y Mynydd (Charadrius morinellus) yn aelod o deulu'r rhydyddion, ond yn wahanol i'r rhan fwyaf o'r teulu yma yn aderyn sydd i'w weld yn amlach yn y mynyddoedd nag ar lan y môr.
Mae'n nythu yng ngogledd Ewrop ac Asia, o Norwy i ddwyrain Siberia, ac hefyd ymhellach i'r de lle mae mynyddoedd digon uchel i gynnig yr un math o gynefin, er enghraifft yn Yr Alban a'r Alpau. Mae'n nythu ar lawr ac yn dodwy 2 - 4 wy. Pryfed yw'r prif fwyd. Mae'n aderyn mudol yn gaeafu yng ngogledd Affrica a gorllewin Asia cyn belled ag Iran.
Gellir adnabod Hutan y Mynydd yn weddol hawdd. Mae'n aderyn gweddol fychan, llai na'r Cwtiad Aur er enghraifft, ac mae ganddo linell wen darawiadol uwchben y llygad. Yn y tymor nythu mae gan yr iâr a'r ceiliog fron frowngoch gyda gwyn o'i chwmpas, bol du a chefn brown, ond yn wahanol i'r rhan fwyaf o adar mae'r iâr yn fwy lliwgar na'r ceiliog. Mae hyn yn gysylltiedig a'r ffaith mai'r ceiliog sy'n gyfrifol am ori'r wyau ac edrych ar ôl y cywion. Yn y gaeaf mae'r patrwm yn debyg on yn fwy llwyd.
Mae cofnod bod Hutan y Mynydd wedi nythu unwaith neu ddwy yng Nghymru ar y Carneddau. Fel rheol gellir ei weld mewn lleoedd traddodiadol, un ai yn y mynyddoedd neu ar ambell benrhyn, pan mae'n pasio trwodd yn mis Mai neu'n dychwelyd rhwng diwedd Awst a dechrau Hydref.