Joseph Parry
Oddi ar Wicipedia
Cyfansoddwr a cherddor Cymreig oedd Joseph Parry (21 Mai 1841 — 17 Chwefror, 1903).
Cafodd ei eni ym Merthyr Tudful. Ysgrifennodd y gân, Myfanwy, a'r emyn-dôn Aberystwyth. Cyfansoddodd yr opera gyntaf yn yr iaith Gymraeg, Blodwen. Bu farw ym Mhenarth, Bro Morgannwg.
Ysgrifennodd Jack Jones y llyfr Off to Philadelphia in the Morning yn seiliedig ar hanes Joseph Parry.