Llydaw
Oddi ar Wicipedia
Llydaw (Breizh, Bretagne, Bertaèyn) | ||
---|---|---|
(Baner Llydaw) |
||
Hysbysrwydd | Rhanbarth Llydaw | Liger-Iwerydd |
Prifddinas: | Roazhon (Rennes) | Naoned (Nantes) |
Poblogaeth (2003): Dwysedd: |
2 972 700 o drigolion 107 trigolyn/km² |
1 134 266 o drigolion 166 trigolyn/km² |
Ardal: | 27 208 km² | 6 815 km² |
Llywydd y Cyngor: | Jean-Yves Le Drian | Patrick Mareschal |
Départements: | Arfordir Armor (22) Îl-a-Gwilun (35) Môr Bychan (56) Penn-ar-Bed (29) |
Liger-Iwerydd (44) |
Un o'r gwledydd Celtaidd, yng ngweriniaeth Ffrainc, yw Llydaw (Llydaweg: Breizh, Ffrangeg: Bretagne). Fe'i rhannwyd rhwng dau ranbarth (régions) Ffrengig gan lywodraeth Vichy Ffrainc yn ystod yr Ail Ryfel Byd, sef Bretagne a Rhanbarth Bröydd Liger. Yn y naill y mae pedwar o bum département y wlad; yn y llall y mae'r pumed (Liger-Iwerydd), ynghŷd â départements sy'n rhan o fröydd eraill.
[golygu] Hanes
Fe ymfudodd llawer o hynafiaid y Llydawyr o Ynys Prydain ar ôl ymadawiad y Rhufeiniaid yn 410 OC. Yn y 9fed ganrif, llwyddodd Nevenoe (Nominoë yn Ffrangeg) i gyfuno Llydaw oll yn un deyrnas.
Yn Rhyfel Olyniaeth Llydaw, rhwng 1341 a 1364, fe wrthdarodd cynghreiriaid Lloegr yn erbyn cynghreiriaid Ffrainc. Daeth annibyniaeth Llydaw i ben drwy Ddeddf Uno yn 1532, ond roedd ganddi rywfaint o ymreolaeth o fewn Ffrainc tan 1789. Gwrthryfel yn erbyn y Chwyldro Ffrengig oedd y Chouanted, a gefnogwyd gan y Saeson. Bu dirywiad mawr yn sefyllfa'r iaith Lydaweg ers 1945.
[golygu] Ieithoedd
Ers yr Oesoedd Canol, mae gwahanaeth eglur rhwng Llydaw Isel (yn yr Orllewin: Breizh-Izel neu Goueled-Breizh; Basse-Bretagne) a Llydaw Uchel (yn y Dwyrain: Breizh-Uhel neu Gorre-Breizh; Haute-Bretagne neu Pays Gallo). Mae'r mwyafrif o siaradwyr Llydaweg yn Llydaw Isel, lle mae trefi Kemper (Quimper), Brest, an Oriant (Lorient), a Gwened (Vannes). Yn Llydaw Uchel, pa fodd bynnag, yr oedd y werin yn siarad Gallo, ac yma y mae'r ddwy ddinas fawr (Naoned a Roazhon) a llawer o drefi eraill, er enghraifft Sant Maloù (Saint-Malo), Sant Nazer (Saint-Nazaire) a Sant Brïeg (Saint-Brieuc). Mae'r "ffin" ddiwyllianol hon yn ymestyn o Sant Brïeg i dre Gwened.
[golygu] Rhaniadau gweinyddol
Ceir naw "esgobaeth" neu ranbarth hanesyddol yn Llydaw:
- Bro Gerne
- Bro Ddol
- Bro Leon
- Bro Naoned
- Bro Roazhon
- Bro Sant Brïeg
- Bro Sant Maloù
- Bro Dreger
- Bro Wened
Gwledydd Celtaidd | ||
---|---|---|
Gwelwch hefyd: Y Celtiaid |