Llyfr Sant Chad
Oddi ar Wicipedia
Llawysgrif Ladin a gedwir yng nghadeirlan Lichfield yng nghanolbarth Lloegr yw Llyfr Sant Chad (a elwir hefyd yn Llyfr Teilo ac Efengylau Caerlwytgoed). Mae'n cynnwys Efengylau Mathew a Marc a rhan o Efengyl Luc. Mae'r testunau mewn ysgrifen Ynysig ac yn dyddio o hanner cyntaf yr 8fed ganrif. Mae'r llawysgrif wedi'i haddurno'n gain yn yr arddull Celtaidd tebyg i'r hyn a welir yn Llyfr Lindisfarne.
[golygu] Llandeilo Fawr
Tybir i'r llawysgrif ddod i Lichfield o Landeilo Fawr ar ddiwedd y 10fed ganrif. Ceir sawl cofnod Hen Gymraeg yn y llawysgrif. Dywedir mewn un ohonynt i Gelhi fab Arihtuid roi'r llawysgrif 'i Dduw a Sant Teilo ar yr allor', ac iddo ei brynu am bris ei geffyl gorau. Ymddengys felly mai 'Llyfr Teilo' oedd enw'r llawysgrif yn wreiddiol a'i bod wedi'i llunio yn ne Cymru yn hanner cyntaf yr wythfed ganrif.
[golygu] Hen Gymraeg
Y cofnod Cymraeg pwysicaf yw'r hwnnw a elwir yn Gofnod surexit (ar ôl y gair cyntaf surexit). Ynddo ceir tua 64 o eiriau mewn Hen Gymraeg. Er ei bod yn anodd ei ddyddio'n union mae'n debyg mae hwn yw'r darn hynaf o Gymraeg ysgrifenedig a gadwyd i ni. Mae'r cofnod yn bwysig iawn i'r sawl sy'n astudio paleograffeg a geirfa Hen Gymraeg a chyfraith Gymreig yr Oesoedd Canol.
[golygu] Darllen pellach
- Jenkins, Dafydd a Morfydd E. Owen. 1983/84. The Welsh Marginalia in the Lichfield Gospels. Cambridge Medieval Celtic Studies 5: 37-66, 7: 91-120.