Urdd Gobaith Cymru
Oddi ar Wicipedia
Mudiad ieuenctid Cymraeg yw Urdd Gobaith Cymru. Fe'i sefydlwyd yn 1922 gan Syr Ifan ab Owen Edwards. Mae'r aelodau yn addo bod yn ffyddlon i Gymru, i'w cyd-ddyn ac i Grist.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd bob blwyddyn. Mae enillwyr eisteddfodau cylch yn mynd ymlaen i'r eisteddfodau sir ac enillwyr yr eisteddfodau sir sydd yn mynd ymlaen i gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ei hun.
Mae'r Urdd hefyd yn cynnal gwersylloedd yng Nglanllyn ger Y Bala a Llangrannog, Ceredigion, lle mae Cymry Cymraeg a dysgwyr yn mwynhau gweithgareddau awyr agored. Mae'r Urdd yn rhannu'r cyfleusterau sydd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ers 2004.