Y Byd Mwslemaidd
Oddi ar Wicipedia
Rhan o gyfres ar |
|
---|---|
Athrawiaeth |
|
Arferion |
|
Cyffes Ffydd · Gweddïo |
|
Hanes & Arweinwyr |
|
Ahl al-Bayt · Sahaba |
|
Testunau & Deddfau |
|
Coran · Sŵra · Sunnah · Hadith |
|
Sunni · Shi'a | |
Diwylliant & Cymdeithas |
|
Astudiaethau Islamig · Celf |
|
Islam a chrefyddau eraill |
|
Cristnogaeth · Iddewiaeth |
|
Islamophobia · Termau Islamig |
|
Mae'r termau y Byd Mwslemaidd a'r Byd Islamaidd yn cyfeirio at y gymuned fyd-eang o ddilynwyr y grefydd Islam. Mae tua 1.4—1.6 biliwn o Fwslemiaid (rhai sy'n credu yn Islam) yn y byd. Ehangodd y Byd Mwslemaidd dros y blynyddoedd wrth i Islam ledaenu o'r Dwyrain Canol a Gogledd Affrica i weddill yr Affrig, Canolbarth Asia, isgyfandir India ac ynysfor Indonesia. O ganlyniad i allfudo, ceir cymunedau sylweddol o Fwslemiaid yn ninasoedd y Byd Gorllewinol, ond ni ystyrir rhain yn rhan o Fyd Islam.[1] Mae Mwslemiaid yn defnyddio'r enw Dar al-Islam (Arabeg : دار الإسلام ) - yn llythrennol "Tŷ Gostyngiad neu Heddwch" - i gyfeirio at y gwledydd sydd dan lywodraeth Islamaidd.
[golygu] Byd Islam yng ngwleidyddiaeth gyfoes
Yn ystod yr ugeinfed ganrif, cynyddodd presenoldeb a dylanwad y Byd Gorllewinol ar y Byd Mwslemaidd. Mae union effeithiau'r Gorllewin yn ddadleuol, ond dywedir bod globaleiddio, rhyfeloedd, y defnydd o olew,[2] statws gwledydd Islamaidd fel gwledydd y Trydydd Byd,[2] a ffurfiad Gwladwriaeth Israel[1] i gyd wedi cael effeithiau negyddol ar y Byd Mwslemaidd. Mae'r digwyddiadau yma wedi cyfrannu'n sylweddol at derfysgaeth gan Fwslemiaid ar ddiwedd yr ugeinfed ganrif a dechrau'r unfed ganrif ar hugain (er bod agweddau eraill: gweler ffwndamentaliaeth Islamaidd a terfysgaeth eithafol Islamaidd). Hefyd yn y ddwy ganrif hyn, bu allfudiad o Fwslemiaid i wledydd y Gorllewin, sydd wedi cael effeithiau amrywiol ar y berthynas rhyngddynt a Gorllewinwyr.