Y Chwyldro Ffrengig
Oddi ar Wicipedia
Roedd y Chwyldro Ffrengig (rhwng 1789 a 1799) yn gyfnod yn hanes Ffrainc pan y gwnaeth y gweriniaethwyr ddymchwel y frenhiniaeth ac fe aeth yr Eglwys Babyddol Rufeinig trwy gyfnod o ailstrwythuro sylfaenol yn Ffrainc. Tra y bu Ffrainc yn cyfnewid yn ôl ac ymlaen rhwng gweriniaeth, ymherodraeth a brenhiniaeth am 75 mlynedd yn dilyn cwymp y Weriniaeth Gyntaf i law Napoleon Bonaparte, roedd y chwyldro er hynny yn arwyddo yr ancien régime gan roi y rhai a ddilynodd yn y cysgod yn nychymyg pobl Ffrainc.
Effeithiodd y Chwyldro Ffrengig nid yn unig ar Ffrainc ond ar weddill Ewrob hefyd, a chafodd gryn effaith ar y tiroedd Almaenaidd. Yr oedd yr hyn a ddechreuodd fel protest gan yr aristocratiaid yn erbyn Louis XVI a’i frenhiniaeth absoliwt, i ragflaenu chwyldro mawr a newidiodd hanes a golwg Ewrob. Daeth grwp o’r enw Girondistes o ardal Bordeaux i bwer ond fe’u gwrthwynebwyd gan grwp y Jacobins. Disodlwyd y Jacobins gan y Directoire, sef grwp o’r dosbarth canol a oedd wedi uno â’r Girondistes, ac fe gafwyd llywodraeth newydd gymedrol. Daethant i bwer ym 1794 ond erbyn 1799 ystyriwyd hwy yn llygredig ac fe gymerodd Napoleon yr awenau. Daeth Napoleon i bwer a chymorth y fyddin ac fe lywodraethodd fel teyrn. Yr angen am sefydlogrwydd a gwarediad y chwyldro llygredig a barodd parodrwydd y bobl i dderbyn Napoleon er ei fod yn unben. Daeth Napoleon a threfn newydd ond ailsefydlodd llawer o hen sefydliadau’r chwyldro a oedd wedi dirywio hefyd. Er yn unben, yr oedd yn ddyn goleuedig, a chyflwynodd system weinyddol ddiwygiedig. Diwygiodd y system addysg gan fynnu i bawb gael addysg. Diwygiodd y system gyfreithiol i greu, Code Napoleon, a oedd yn cynnwys datganiad o hawliau dynol.