Afon Alaw (llong)
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Roedd yr Afon Alaw yn llong hwylio pedwar hwylbren a wasanaethodd o 1891 hyd 1918. Ei chwaer-long oedd yr Afon Cefni.
Adeiladwyd yr Afon Alaw gan gwmni A. Stephens & Sons o Glasgow ar gyfer Hughes & Co o Borthaethwy, Ynys Môn.
Fe'i henwyd ar ôl yr afon o'r un enw yng ngogledd-orllewin Môn. Roedd hi'n farc 2,052 tunnell gros, hyd 284 troedfedd, lled 42 troedfedd.
Yn 1904 fe'i gwerthwyd i gwmni Cymreig arall, o Lerpwl, W. Thomas & Sons. Cafodd ei gwerthu eto ddiwedd y 1910au i Christiansand o Norwy. Yn 1918 suddwyd yr Afon Alaw ym Môr Iwerydd y De gan y llong ryfel Almaenaidd Wulf tra ar ei ffordd i Montevideo, yn Uruguay.