Afon Alaw
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Afon Alaw yn un o'r afonydd pwysicaf ar Ynys Môn.
Mae Afon Alaw yn tarddu gerllaw Llanerchymedd yng nghanol yr ynys ac yn llifo i mewn i Lyn Alaw, cronfa a ffurfiwyd trwy adeiladu argae ar draws yr afon. Mae nifer o nentydd eraill hefyd yn llifo i mewn i'r llyn.
Ar ôl gadael y llyn mae'r afon yn llifo heibio Llanbabo a Llanfachreth, ac mae afon arall, a elwir Afon Alaw Fach, yn ymuno â hi. Mae'n cyrraedd y môr ym Mhenrhos, i'r dwyrain o Gaergybi.
Ceir sôn am Afon Alaw yn Brawnwen ferch Llŷr, ail gainc y Mabinogi, lle'r adroddir yr hanes am Branwen yn marw o dorcalon am fod cymaint o ryfelwyr dewr o Ynys y Cedyrn (Ynys Prydain) ac Iwerddon wedi marw o'i hachos hi, a'i chladdu wedyn mewn bedd ar lan Afon Alaw:
- Ac yna y llas y benn ef (Bendigeidfran), ac y kychwynassant a'r pen gantu drwod, y seithwyr hynn, a Branwen yn wythuet. Ac y Aber Alau yn Talebolyon y doethant y'r tir. Ac yna eisted a wnaethant, a gorfowys. Edrych oheni hitheu ar Iwerdon, ac ar Ynys y Kedyrn, a welei ohonunt. "Oy a uab Duw," heb hi, "guae ui o'm ganedigaeth. Da [o] dwy ynys a diffeithwyt o'm achaws i." A dodi ucheneit uawr, a thorri y chalon ar hynny. A gwneuthur bed petrual idi, a'e chladu yno yglan Alaw.
Mae claddfa ar lan yr afon gerllaw Llanbabo yn dwyn yr enw Bedd Branwen - credir ei bod yn dyddio o Oes yr Efydd.
Enwyd y llong hwylio Afon Alaw, chwaer-long yr Afon Cefni, ar ôl yr afon.