Afon Nîl
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Afon Nîl (neu Afon Neil, Arabeg: النيل an-nīl), yn afon yn Affrica sy'n un o'r ddwy afon hwyaf yn y byd. Mae dadl yn parhau ai hi ynteu Afon Amazonas yw'r hwyaf. Mae tua 6,695 km (4,160 milltir) o hyd.
Mae'r enw yn deillio o'r enw a roddodd y Groegiaid iddi, sef Neilos (Νειλος).
Mae Afon Nîl yn cychwyn fel dwy afon, y Nîl Las a'r Nîl Wen, sy'n ymuno a'i gilydd i greu'r brif afon.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Y Nîl Las
Mae'r afon yma yn dechrau yn Llyn Tana yn ucheldiroedd Ethiopia, ac yn llifo tua 1,400 km (850 milltir) i ymuno a'r Nil Wen ger Khartoum. Yn yr haf, pan fydd y tymor glawog yn ucheldir Ethiopia, Y Nîl Las sy'n cyfrannu'r rhan fwyaf o'r dwr i Afon Nîl, ond mae llawer llai o ddwr ynddi ar adegau eraill o'r flwyddyn.
[golygu] Y Nîl Wen
Mae'r Nîl Wen yn cychwyn o Lyn Victoria ar ffiniau Iwganda, Cenia a Tansania, er bod afonydd o faint sylweddol yn rhedeg i mewn i'r llyn yma ac felly'n rhan o'r un system. Mae'n llifo trwy Lyn Albert ac yna trwy Swdan lle mae'n ymuno a'r Nîl Las.
[golygu] Afon Nîl
Wedi i'r ddwy afon ymuno a'i gilydd yn Khartoum, adnabyddir yr afon fel yr Afon Nîl. Rhyw 300 km (200 milltir) yn nes ymlaen mae Afon Atbara, sydd hefyd yn codi yn Ethiopia, yn ymuno a hi. Mae'r afon tua hanner y ffordd i'r môr erbyn hyn, ond dyma'r afon olaf i ymuno a hi, gan ei bod yn llifo trwy ardaloedd eithriadol o sych o hyn ymlaen.
Wrth gyrraedd yr Aifft, mae'n llifo trwy Llyn Nasser, cronfa a grewyd trwy adeiladu argae Aswan. Mae'n llifo i'r Môr Canoldir gan greu delta anferth.
[golygu] Afon Nîl mewn hanes
Roedd Afon Nîl (iteru un yr iaith Eiffteg) yn hollol hanfodol i fywyd yn yr Hen Aifft. Roedd bron y cyfan o'r boblogaeth yn byw o fewn cyrraedd i'w glannau ac yn tyfu eu cnydau ar y tir oedd wedi ei ffrwythloni gan y dyfroedd. Roedd yr Eifftiaid yn gwahaniaethu rhwng "y tir du" ffrwythlon ger yr afon a'r "tir coch", yr anialwch tywodlyd o'i chwmpas. Pan fyddai'r glawogydd gannoedd o filltiroedd i'r de yn codi lefel y dwr yn yr afon, roedd y dwr yn gorchuddio llawer o'r tir. ac wrth i'r dyfroedd ddisgyn byddai'r ffermwyr yn plannu eu cnydau. Hyd yn oed heddiw, mae'r rhan fwyaf o boblogaeth yr Aifft yn byw ger yr afon.
Mae'r dinasoedd pwysig ar lannau'r afon yn cynnwys Khartoum (yn y Sudan), Aswan, Luxor (Thebes), a Cairo.
Gall longau forio ar hyd yr afon cyn belled a'r argae yn Aswan. Heblaw trafnidiaeth fasnachol, mae hefyd yn boblogaidd gyda twristiaid, sydd fel rheol yn cymeryd taith ar yr afon o Luxor i Aswan, gan ymweld a'r temlau ac olion eraill o'r hen Aifft ar ei glannau.