Amman
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Amman yw prifddinas Gwlad Iorddonen.
Dinas Amman oedd prifddinas yr Ammoniaid y cyfeirir atynt yn y Beibl. Mae olion archaeolegol Groegaidd a Rufeinig i'w gweld hyd heddiw; yr enwocaf yw'r amffitheatr Rufeinig yng nghanol y ddinas.
Ar ôl y cyfnod Rhufeinig aeth Amman, nad oedd yn dref bwysig iawn dan yr ymerodraeth, yn bentref di-nod. Dan reolaeth Prydain yng ngwlad Iorddonen dechreuodd ffynnu eto ac yn 1946 daeth yn brifddinas y wlad annibynnol newydd.
Tyfodd y boblogaeth yn sylweddol mewn canlyniad i'r rhyfeloedd rhwng Israel a'r gwledydd Arabaidd yn 1948, 1967, a 1973, wrth i nifer o ffoaduriaid Palesteinaidd gyrraedd y ddinas. Yn 1970 arweiniodd y tensiynau rhwng y ffoaduriaid a llywodraeth y wlad at ymladd yn y strydoedd.
Ers hynny mae nifer fawr o'r ffoaduriaid wedi dychwelyd i'r Y Llain Orllewinol.