Arf niwclear
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Arf dinistriol yw arf niwclear. Mae arf niwclear yn daflegryn, bom, siel neu ffrwydryn tir sy'n defnyddio dyfais ffisiwn neu ffiwsiwn deunydd niwclear i ryddhau maint anferth o wres, goleuni, chwythiad ac ymbelydredd.
Ceir tri fath o ddyfais niwclear: dyfais atomaidd, dyfais hydrogen a dyfais niwtron.
Dyfeisiau atomaidd oedd yn y bomiau a ollyngwyd gan yr Unol Daleithiau ar Hiroshima a Nagasaki yn Siapan yn Awst 1945.
Mae arfau niwclear mwy diweddar yn cynnwys y daflegryn Cruise. Arweiniodd cynlluniau UDA i osod Cruise ar safleoedd ym Mhrydain a'r Almaen at argyfwng gwleidyddol ar ddechrau'r 1980au. Cynhalid llu o brotestiadau mawr dros heddwch, er enghraifft yn Greenham Common yn ne Lloegr a ger Mur Berlin yn yr Almaen.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
[golygu] Gweler hefyd
- Cytundeb Gwahardd Arbrofi Niwclear
- SALT
- Ymgyrch Diarfogi Niwclear (CND)
- Ynni niwclear