Bartholomew Roberts
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Yr oedd Bartholomew Roberts (c.1682 - 10 Chwefror, 1722), o Gasnewydd Bach, Sir Benfro yn fôr-leidr llwyddiannus dros ben yn y Caribî. Mae'n fwy adnabyddus dan yr enw Barti Ddu (Saesneg: "Black Bart").
Yr oedd Roberts yn ail fêt ar y llong Princess pan ymosododd y môr-leidr o Gymro Howel Davies arni yn 1718. Wedi cipio'r llong, gorfodwyd ef i ymuno a chriw y môr-ladron. Pan laddwyd Howel Davies, chwech wythnos yn ddiweddarach, dewisodd y môr-ladron Roberts i fod yn gapten yn ei le.
Cyn hir yr oedd llawer o siarad am orchestion Barti Ddu a'i long Royal Fortune. Hwyliodd i mewn i lynges o 42 o longau Portiwgal, daliodd garcharor i'w holi pa un o'r llongau oedd y gyfoethocaf ac yna cipiodd y llong honno a'i hwylio ymaith. Dro arall daeth i borthladd yn Newfoundland lle roedd 22 o longau, a ffodd criw pob un ohonynt mewn ofn. Dywedir ei fod yn cadw disgyblaeth dda ar ei griw, ac yn gwahardd diodydd meddwol ar fwrdd ei long.
Gyrrodd y Llynges Brydeinig long ryfel, HMS Swallow dan y Capten Chaloner Ogle, i geisio ei ddal, ac yn 1722 bu brwydr rhwng y llong yma a'r Royal Fortune ger Cape Lopez, Gabon. Ar ddechrau'r ymladd safai Roberts yn ei wisg wychaf yn annog ei griw, ond tarawyd ef yn ei wddf gan fwled a'i ladd. Taflwyd ei gorff i'r môr yn ôl ei ddymuniad. Heb eu capten, ildiodd y gweddill o'r criw, a chrogwyd nifer ohonynt.