Gabon
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
|
|||||
Arwyddair: {{{arwyddair_cenedlaethol}}} | |||||
Anthem: La Concorde | |||||
Prifddinas | Libreville | ||||
Dinas fwyaf | Libreville | ||||
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Ffrangeg | ||||
Llywodraeth
• Arlywydd
• Prif Weinidog |
Gweriniaeth Omar Bongo Jean Eyeghe Ndong |
||||
Annibyniaeth o Ffrainc Datganwyd |
17 Awst 1960 |
||||
Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
267,668 km² (75ain) bron i ddim |
||||
Poblogaeth - amcangyfrif 2005 - Dwysedd |
1,384,000 (148ain) 5.2/km² (216eg) |
||||
CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
amcangyfrif 2005 $9.621 biliwn (136fed) $7,055 (89ain) |
||||
Indecs Datblygiad Dynol (2003) | 0.635 (123fed) – canolig | ||||
Arian breiniol | Ffranc CFA (XFA ) |
||||
Cylchfa amser - Haf |
WAT (UTC+1) WAT (UTC+1) |
||||
Côd ISO y wlad | .ga 1 | ||||
Côd ffôn | +241 |
Gweriniaeth yng ngorllewin Canolbarth Affrica yw Gabon (Ffrangeg La République gabonaise neu Gabon). Mae'r boblogaeth yn isel iawn yn nhermau gwledydd Affrica. Y gwledydd cyfagos yw Guinea Gyhydeddol, Camerŵn a Gweriniaeth y Congo. Mae'n wlad sy'n llawn o goedwigoedd trofaol sy'n gorwedd ar arfordir Gwlff Gini. Mae ganddi fauna a flora cyfoethog ac erys ei hamgylchedd heb ei difetha llawer. Roedd gynt yn drefedigaeth Ffrengig. Ers ei annibyniaeth ar Ffrainc yn 1960, mae hi dan reolaeth arlywyddion awtocratig, ond mae system bleidol a chyfansoddiad ganddi newydd ers y 1990au.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
Ychydig sy'n hysbys am hanes cynnar y wlad. Gwelwyd tonnau olynol o ymsefydlu yn y wlad, hyd at y 19eg ganrif, gan bobloedd Pygmi i ddechrau ac yna ar raddau mwy sylweddol gan y Bantu, sy'n ffurfio mwyafrif y boblogaeth erbyn heddiw. Yn ystod y mudo hyn daeth yr Ewropeiaid cyntaf, y Portiwgaliaid, i lannau Gabon yn y 15fed ganrif. Daw'r enw 'Gabon' o'r enw Portiwgaleg Gabão "penrhyn", oherwydd siâp yr aber lle saif Libreville heddiw. Cipiodd Ffrainc y wlad oddi ar Portiwgal yn 1855. Cafodd y wlad ei hannibyniaeth 17 Awst, 1960.
[golygu] Gwleidyddiaeth
Mae gan Gabon system arlywyddol. Arlywydd cyntaf Gweriniaeth Gabon oedd Léon Mba. Yr ail arlywydd, sydd mewn grym ers 1967, yw Omar Bongo Ondimba.
[golygu] Taleithiau
Rhennir Gabon yn 9 talaith:
- Estuaire
- Haut-Ogooué
- Moyen-Ogooué
- Ngounié
- Nyanga
- Ogooué-Ivindo
- Ogooué-Lolo
- Ogooué-Maritime
- Woleu-Ntem.
[golygu] Iaith a diwylliant
Ffrangeg yw'r brif iaith a'r unig iaith swyddogol ond sieredir sawl iaith brodorol yn ogystal.
Gyda'i chymydog Camerŵn mae Gabon yn gartref i ddiwylliant y Ffangiaid, grŵp ethnig sy'n adnabyddus am ei dawnsiau a'i chelf dradoddiadol, yn arbennig ei masgiau trawiadol.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.