Blwyddyn naid
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Gelwir blwyddyn sy'n cynnwys y dydd 29 Chwefror yn flwyddyn naid. Dewiswyd y blynyddoedd sy'n rhanadwy gan 4 i fod yn flynyddoedd naid, heblaw am y blynyddoedd sy'n rhanadwy gan 100 ac heb fod yn rhanadwy gan 400. Mae'r rheol hwn yn rhoi 97 blynyddoedd naid pob 400 mlynedd, hynny yw blynyddoedd ag iddynt gyfartaledd o 365.2425 dydd yng Nghalendr Gregori. Gan mai gwir hyd y flwyddyn yw 365.2422 dydd rhaid ychwanegu 1 diwrnod bob yn 3,319.8 blwyddyn at y calendr.