Bras Melyn
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Bras Melyn | ||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
![]() |
||||||||||||||
Dosbarthiad biolegol | ||||||||||||||
|
||||||||||||||
Enw deuenwol | ||||||||||||||
Emberiza citrinella Linnaeus, 1758 |
Mae'r Bras Melyn (Emberiza citrinella ) yn aelod o deulu'r Emberizidae, y breision. Mae'n aderyn cyffredin ac adnabyddus trwy Ewrop a rhan helaeth o Asia.
Nid yw'r Bras Melyn yn aderyn mudol fel rheol, ond mae'r adar sy'n nythu yn y rhannau lle mae'r gaeafau'n arbennig o oer yn symud tua'r de. Yn y gaeaf maent yn aml yn casglu at ei gilydd yn heidiau. Maent yn hoffi tir agored gydag ychydig o goed neu lwyni fel rheol.
Gellir adnabod y Bras Melyn yn hawdd, yn enwedig y ceiliog. Mae'n aderyn gweddol o faint, 15.5-17cm o hyd a gyda pig trwchus. Mae gan y ceiliog ben, bron a bol melyn a chefn brown. Nid yw'r iâr mor darawiadol, ond mae hithau yn dangos gwawr felyn fel rheol, er ei bod yn fwy brown. Hadau yw'r prif fwyd, ond mae'r cywion yn cael eu bwydo ar bryfed.
Mae'r Bras Melyn yn aderyn gweddol gyffredin yng Nghymru ond mae'n absennol o rai ardaloedd ac mae ei nifer wedi gostwng yn sylweddol yn yr 50 mlynedd diwethaf, efallai oherwydd newidiadau mewn amaethyddiaeth.