Bwlch Oerddrws
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Bwlch yn ne-ddwyrain Meirionnydd (de Gwynedd) rhwng Dolgellau a Dinas Mawddwy yw Bwlch Oerddrws. Mae lôn priffordd yr A470 yn ei groesi. Ar ei uchaf mae'n 360 metr (tua 1200 troedfedd) uwchlaw lefel y môr.
I'r gogledd mae cadwyn hir y ddwy Aran, Aran Fawddwy ac Aran Benllyn, yn ymestyn i gyfeiriad Y Bala a'r Berwyn. I'r de mae'r gadwyn yn parhau i gyfeiriad Corris a Talyllyn gyda chopaon Cribin Fach, Waun Oer a Mynydd Ceiswyn. O gwmpas y bwlch ei hun ceir llethrau llwm Ochr-y-Bwlch i'r gogledd, sy'n codi i Ben y Bryn Fforchog (660m). I'r de ceir clogwynni Craig y Bwlch dan y Gribin Fach. Mae'n fwlch llydan ac agored iawn ac mae'n hawdd gweld sut y cafodd yr enw 'Oerddrws'. Ceir fferm ychydig filltiroedd i'r de, ar bwys y lôn i Gorris, o'r enw 'Hafoty Oer' yn ogystal.
Rhedai'r hen lôn bost o gyfeiriad Dolgellau drwy'r Groes-lwyd a heibio i dafarn enwog Y Llwynogod Croesion (Crossfoxes). Ers canrifoedd mae'r dafarn honno wedi croesawu teithwyr ac mae ymhlith yr uchaf a'r unigaf yng Nghymru. Mae llwybr i ben Cadair Idris yn dechrau ychydig is i fyny o'r dafarn. Â'r ffordd yn ei blaen heibio ffermdy Gwanas-fawr gan groesi Afon Clywedog a dringo'n syth i'r bwlch ei hun. O'r bwlch mae'r olygfa i'r ddau gyfeiriad, gorllewin a dwyrain, yn odidog pan fo'r tywydd yn braf. Mae'r ffordd yn disgyn yn syth ac yn serth (1:5) i gyfeiriad Dinas Mawddwy a Mallwyd gan dilyn ffrwd Afon Cerist i lawr i ymuno ag Afon Dyfi. Camlan yw enw'r llecyn wrth waelod y bwlch ond mae'n anhebygol fod yna unrhyw gysylltiad rhyngddo a safle'r frwydr enwog. Dywedir fod Gwylliaid Cochion Mawddwy yn arfer ymosod ar deithwyr a'u hysbeilio wrth iddynt fynd trwy'r bwlch.