Aran Fawddwy
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Aran Fawddwy Eryri |
|
---|---|
Llun | Aran Fawddwy (ar y chwith) a Chreiglyn Dyfi |
Uchder | 905m / 2,969 troedfedd |
Gwlad | Cymru |
Mae Aran Fawddwy yn fynydd yn ne Eryri yng Ngwynedd. Aran Fawddwy, 905 medr o uchder, yw'r mynydd uchaf yng Nghymru ac ar Ynys Prydain i'r de o'r Wyddfa. Aran Fawddwy yw'r copa uchaf ar y grib sy'n rhedeg tua'r de-orllewin o gyffiniau Llanuwchllyn tua Dolgellau, sydd hefyd yn cynnwys Aran Benllyn sydd fymryn yn is, ac yna'n parhau tua'r gorllewin fel Cadair Idris, gyda Bwlch Oerddrws yn gorwedd rhwng dwy ran y gadwyn.
Y pentrefi agosaf i'r mynydd yw Dinas Mawddwy i'r de, Llanymawddwy i'r de-ddwyrain, Rhydymain i'r gorllewin a Llanuwchllyn tua'r gogledd. Ar lechweddau dwyreiniol Aran Fawddwy mae llyn bychan Craiglyn Dyfi, lle mae Afon Dyfi yn tarddu. Daw'r enw o gwmwd Mawddwy, oedd yn cynnwys y wlad o gwmpas rhan uchaf Afon Dyfi.
Gellir dringo'r mynydd o'r de o Gwm Cywarch, sy'n rhedeg tua'r gogledd o Ddinas Mawddwy. Ffordd arall o gyrraedd y copa yw dringo Aran Benllyn o Lanuwchllyn, ac yna dilyn y grib.