Caeredin
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Prifddinas yr Alban ers 1492 yw Caeredin (Gaeleg: Dùn Èideann Saesneg: Edinburgh). Mae hi ar arfordir dwyrain y wlad ac ar lan deheuol y Firth o Forth. Mae Senedd yr Alban, a gafodd ei hail-sefydlu ym 1999, yn y ddinas, ac roedd 448,624 o bobl yn byw ynddi yn 2001.
Mae enw'r ddinas yn dod o'r Frythoneg Din Eidyn, sef Caer Eidyn. 'Roedd un o fryngeyrydd y Gododdin ar y lle, efallai yn perthyn i'r brenin Clinog Eitin yng nghanol y chweched ganrif, yn ôl David Nash Ford. Ar ôl ei goresgyn gan y deyrnas Seisnig Bernicia newidiwyd yr enw i Edin-burh, efallai gyda dylanwad enw Edwin, brenin Northumbria. Ond ni lwyddodd yr Eingl-Sacsoniaid i ymsefydlu dim pellach i'r gogledd na Chaeredin, ac erbyn y ddegfed ganrif 'roedd y Saeson wedi colli gafael ar yr ardal hon i frenhinoedd yr Alban.
Mae'r ddinas yn enwog am yr Edinburgh Festival a'r wyl Hogmanay.
[golygu] Hanes
Mae Prince's Street Gardens yn ffordd fawr trwy ganol y ddinas. I'r de i'r ffordd hon mae Castell Caeredin a adeiladwyd uwchben craig clogwyn basalt sydd yn hen losgfynydd a'r Old Town, yr Hen Dref. I'r gogledd i'r ffordd mae Prince's Street a'r New Town, y Dref Newydd. Dechreuwyd adeiladu Princes Street Gardens ym 1816 ar le gwern o'r enw Nor Loch a oedd yn llyn o'r blaen.
Roedd lleoliad y castell yn gaer naturiol, ac mae'r lle wedi cael ei ddefnyddio ers yr Oes Efydd Diwethaf (tua 850 CC).
Yn ôl adroddiadau Rhufeinig o'r ganrif gyntaf roedd y Votadini (Gododdin yn Brythoneg) yn byw yn y lle ac mae cerdd o'r enw Y Gododdin (tua 600) sydd yn sôn am ryfelwyr yn gwledda yn Neuadd Mawr Eidin.
Hyd heddiw, mae llawer o strydoedd canoloesol a hen adeiladau yn yr Hen Dref. Mae yna lu o strydoedd cul o'r enw close neu wynd a sgwarau i gynnal marchnadoedd. Yn ystod y 1700au roedd tua 80,000 o bobl yn byw yn yr Hen Dref gyda wal cryf o'i chwmpas, ond does dim ond 4,000 yn byw yno heddiw. Dinistriwyd y rhan fwyaf o'r Hen Dref a'i hadeiladau uchel gan dân ym 1824. Bu tân mawr arall ar 7 Rhagfyr, 2002, a ddinistriodd ardal Cowgate o'r Hen Dref, gan gynnwys Llyfrgell AI a rhai o adeiladau eraill Prifysgol Caeredin.
Dechreuwyd adeiladu'r Ddinas Newydd yn ystod y ddeunawfed ganrif ac mae hi'n enghraifft dda iawn o gynllun tref a phensaernïaeth Sioraidd.