Caerwent
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Caerwent ( weithiau Caer-went) yn bentref yn Sir Fynwy, de-ddwyrain Cymru. Pan goncrwyd llwyth y Silwriaid gan y Rhufeiniaid, crewyd canolfan a thref farchnad iddynt dan yr enw Venta Silurum yn fuan wedi'r flwyddyn 78 gan y Llywodraethwr Rhufeinig Julius Frontinus. Venta Silurum yw'r dref Rufeinig y gwyddir fwyaf amdani yng Nghymru, a'r ail fwyaf adnabyddus ym Mhrydain ar ôl Calleva Atrebatum (Silchester).
Roedd y dref Rufeinig yn dilyn y patrwm arferol, gyda dwy brif ffordd yn ffurfio croes a mur a ffos o'i hamgylch. Gydag arwynebedd o 300 - 350 medr sgwar roedd yn dref gymharol fechan. Yn y canol roedd y Fforwm, gyda sgwar agored a siopau a Basilica o'i amgych. I'r dwyrain o'r Fforwm mae teml Rufeinig, oedd mae'n debyg wedi ei chysegru i'r duw Mawrth, ac i'r gogledd mae Amffitheatr. Yr oedd o leiaf ddau faddondy yn y dref. Ar bob ochr i'r briffordd a redai drwy'r dref roedd yna resi o siopau a sawl teml. Mae darnau sylweddol o'r mur Rhufeinig i'w gweld o hyd, hyd at 5 medr o uchder mewn mannau. Atgyfnerthwyd y muriau hynny â thyrau lle y cedwid arfau. Y tu allan i'r muriau y ceid y mynwentydd. Mae tai y pentref modern yn gorchuddio rhan o'r hen safle Rufeinig.
Credir i'r boblogaeth adael y dref yn y bumed ganrif, fel gyda llawer o ddinasoedd a threfi Rhufeinig Prydain, ond mae'n bosibl i Gaerwent barhau fel canolfan i Deyrnas Gwent ar ôl y cyfnod Rhufeinig. Sefydlwyd clas yng Nghaerwent gan sant o Wyddel o'r enw Tatheus tua'r 5fed ganrif. Ar ôl y Goncwest Normanaidd codwyd castell mwnt a beili ar y safle.
[golygu] Darllen pellach
- O.E. Craster, Caerwent Roman City (HMSO, Llundain, 1951; sawl argraffiad ers hynny)
[golygu] Dolenni allanol
- Caerwent (Saesneg)
- Erthygl yn Gwyddiondur Safleoedd Clasurol Princeton (Saesneg)
Trefi a phentrefi Sir Fynwy |
Brynbuga | Caerwent | Cas-gwent | Cil-y-Coed | Y Fenni | Llangybi | Trefynwy |