Chwyldro Rwsia
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mudiad gwleidyddiol yn Rwsia gan ei uwchafbwynt ym 1917 oedd Chwyldro Rwsia. Yn ystod y chwyldro hon sefydlwyd llywodraeth dros dro yn lle rheoliad y tsar ac o'r sefydlwyd yr Undeb Sofietaidd. Parharodd yr undeb hwn hyd at ei gwymp ym 1991.
Roedd dau gyfnod i Chwyldro Rwsia. Y cyfnod cyntaf oedd Chwyldro Chwefror ym 1917, pryd sefydlwyd llywodraeth ddemocrataidd yn lle teyrnas Nicholas II o Rwsia. Yn ystod yr ail gyfnod, Chwyldro Hydref, roedd y sofietau a gafodd eu ysbrydoliaeth oddi wrth y Bolsieficiaid yn sefydlu llywodraeth dros dro.
Dyfodiad Chwyldro Chwefror yn erbyn rheoliad y Tsar roedd ddim ond mewn nifer o lefydd. Rheswm yr chwyldro roedd y ffaith fod ddim digon o fwyd gan y bobl ac anfodlonrwydd ynghylch rôl y wlad yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn ystod mis Chwefror roedd protest yn troi yn frwydr gan bobl y trefi yn brwydro yn erbyn yr heddlu a'r milwyr. O'r , roedd mwyafrif o filwyr ym Mhetrograd yn ymuno â'r chwildro ac o ganlyniad gorfodwyd tsar Nicholas II i ymdiswyddo o'i frenhiniaeth.
Rhwng mis Chwefror a mis Hydref 1917 roedd anarchyddion a Bolsieficau yn ceisio ysbarduno'r chwyldro. Ym mis Gorffennaf roedd adran milwrol y Bolsiefic, adran mawr gweithwyr Bolsiefic ac anarchyddion Petrograd yn ymgeisio gwrthryfel sifil ym Mhetrograd, ond doedd hynny ddim yn lwyddiannus.
Arweinydd Chwyldro Hydref roedd Lenin a derbynnodd ideoleg Karl Marx. Fel hynny, roedd comiwnyddiaeth yn dechrau. Yn wahân i'r Chwyldro Chwefror cynllunwyd Chwyldro Hydref yn fanwl. Ar 7 Tachwedd, 1917 roedd cwymp y llywodraeth dros dro o dan Aleksandr Kerensky gan chwyldrowyr Lenin. Fel hynny, trowyd llywodraeth democrataidd rhyddfrydol i un comiwnyddiaeth a daeth chwyldro i ben.
Ar ôl Chwyldro Rwsia dechreuodd Rhyfel Cartref Rwsia.
Sylwch fod yr wlad yn defnyddio calendr Julius cyn i 1918 a chalendr Gregori ers hynny