Coleg Girton, Caergrawnt
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Coleg Girton yw un o aelod-golegau Prifysgol Caergrawnt. Fe'i sefydlwyd ar 16 Hydref 1869 gan Emily Davies a Barbara Bodichon, y coleg preswyl cyntaf i fenywod yn Lloegr. Fe'i lleolwyd yn Swydd Hertford ar y cychwyn, ond yn 1872 prynwyd y safle presennol, oddeutu dwy filltir a hanner o ganol Caergrawnt ar Ffordd Huntingdon ger pentref Girton. Yn 1873, ail-agorodd y coleg ar y safle newydd dan ei enw presennol. Fe wnaed sawl ychwanegiad i adeiladau'r coleg dros y flynyddoedd, gan gynnwys estyniad diweddar i'r llyfrgell.
Ar 27 Ebrill 1948 estynnwyd aelodaeth lawn Prifysgol Caergrawnt i ferched, a daeth Girton yn un o golegau'r brifysgol. Mae Girton yn goleg cymysg erbyn hyn; cyrhaeddodd y cymrodyr gwrywaidd cyntaf ym 1977, ac estynnwyd mynediad i is-raddedigion gwrywaidd ym 1979.
Meistres y coleg yw'r Athro-Foneddiges Marilyn Strathern.
[golygu] Graddedigion Nodedig
- Hertha Marks Ayrton, Peirianwraig drydanol
- Isabel Cooper-Oakley, Ysgrifenwraig theosoffaidd
- Brenda Hale, Barwnes Richmond
- Jessie Isabel Hetherington, Addysgwraig Seland Newydd
- Arianna Huffington, awdures a gweithredwraig wleidyddol
- Wendy Holden, nofelwraig
- Rosamond Lehmann, nofelwraig
- Sheila Scott Macintyre, mathemategwraig
- Ada Isabel Maddison, mathemategwraig
- Margrethe II of Denmark, Brenhines Regnaidd Denmark
- Dorothy Marshall, haneswraig ac addysgwraig
- Annie Maunder, seryddwraig
- Constance Maynard, ffeminydd ac addysgwraig
- Sarojini Naidu, barddes Indiaidd
- Sheila Pim, awdures
- Emily James Smith Putnam, addysgwraig a haneswraig Americanaidd
- Gisela Richter, archaeolegwraig glasurol a haneswraig gelf
- Joan Robinson, economegwraig brydeinig
- Clara Ruth Rouse, cenhadwraig grefyddol
- Ethel Sargant, botanegwraig
- Charlotte Angas Scott, mathemategwraig
- Irene Spry, haneswraig economaidd
- Margaret Storey, awdures llyfrau plant
- Bertha Swirles (Yr Arglwyddes Jeffreys), ffisegwraig
- Sandi Toksvig, digrifwraig
- Tywysoges Takamado o Japan
- Renee Winegarten, dadansoddwraig lenyddol
- Barbara Adam Wootton, gwyddonwraig gymdeithasol ac ac economegwraig
- Dorothy Wrinch, biolegwraig fathemategol
- Grace Chisholm Young, mathemategwraig
- Derek Walcott, Bardd, awdur, artist
- Gwyneth Lewis, barddes ac awdyres Cymreig dwyieithog
Colegau Prifysgol Caergrawnt
|
![]() |
---|---|
Coleg y Brenin | Coleg y Breninesau | Churchill | Clare | Neuadd Clare | Corpus Christi | Coleg Crist | Darwin | Downing | Coleg y Drindod | Neuadd y Drindod | Emmanuel | Fitzwilliam | Girton | Gonville a Caius | Homerton | Neuadd Hughes | Coleg Iesu | Lucy Cavendish | Magdalene | Newnham | Neuadd Newydd | Penfro | Peterhouse | Robinson | Santes Catrin | Sant Edmund | Sant Ioan | Selwyn | Sidney Sussex | Wolfson |