Coleg y Brenin, Caergrawnt
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Coleg y Brenin, Caergrawnt (King’s College, Cambridge yn Saesneg) yn un o aelod-golegau Prifysgol Caergrawnt.
[golygu] Hanes
Ffurfiwyd y coleg gan Harri VI, brenin Lloegr ym 1441. Tarfwyd ar ei gynlluniau adeiladu mawreddog gan Rhyfelau'r Rhosod, ac ni chwblhawyd y cynllun tan 1544 dan nawdd Harri'r wythfed.
[golygu] Capel Coleg y Brenin
Mae'r capel yn enghraifft o bensaerniaeth gothig, ac fe'i adeiladwyd dros gyfnod o gan mlynedd. Ysgythrwyd y nenfwd anferth o graig, ac mae ffenestri lliw, a'r llun Ymhyfrydwch y Magi gan Rubens yn addurno'r adeilad. Defnyddir y capel fel addoldy, ac ar gyfer cyngherddau. Mae côr y capel yn fyd-enwog.
[golygu] Graddedigion Nodedig
Ymysg graddedigion nodedig o'r coleg yn ystod yr 20fed ganrif yw Alan Turing, John Maynard Keynes, Zadie Smith, Salman Rushdie, a Johann Hari.
Colegau Prifysgol Caergrawnt
|
![]() |
---|---|
Coleg y Brenin | Coleg y Breninesau | Churchill | Clare | Neuadd Clare | Corpus Christi | Coleg Crist | Darwin | Downing | Coleg y Drindod | Neuadd y Drindod | Emmanuel | Fitzwilliam | Girton | Gonville a Caius | Homerton | Neuadd Hughes | Coleg Iesu | Lucy Cavendish | Magdalene | Newnham | Neuadd Newydd | Penfro | Peterhouse | Robinson | Santes Catrin | Sant Edmund | Sant Ioan | Selwyn | Sidney Sussex | Wolfson |