Harri VIII, brenin Lloegr
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Brenin Lloegr o 22 Ebrill 1509 ymlaen oedd Harri VIII (28 Mehefin 1491 - 28 Ionawr 1547). Roedd yn fab i Harri VII, brenin Lloegr a'i wraig, y Frenhines Elisabeth. Cafodd ei eni ym Mhalas Greenwich, ger Llundain.
Yn nheyrnasiad Harri VIII penderfynwyd 'uno' Cymru a Lloegr (gweler Deddfau Uno).
Harri VIII a sefydlodd Eglwys Loegr. Ar ei orchymyn ef diddymwyd y mynachlogydd yng Nghymru a Lloegr yn 1537.
[golygu] Ei chwe gwraig
- Catrin o Aragon (ysgariwyd)
- Ann Boleyn (dienyddiwyd)
- Jane Seymour (bu farw ar ôl rhoi genedigaeth)
- Anne o Cleves (ysgariwyd)
- Catrin Howard (dienyddiwyd)
- Catrin Parr
Gweler hefyd:
[golygu] Plant
Rhagflaenydd: Harri VII |
Brenin Lloegr 22 Ebrill 1509 – 28 Ionawr 1547 |
Olynydd: Edward VI |
Rhagflaenydd: Arthur |
Tywysog Cymru 1502 – 22 Ebrill 1509 |
Olynydd: Edward |