Crib Nantlle
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Crib Nantlle yw'r enw a roddir i gyfres o fryniau yn Eryri yng Ngwynedd, sy'n ymestyn i'r de-orllewin o bentref Rhyd-Ddu am tua 9 km gan orffen uwchben Talysarn a Nebo. Y grib yma sy'n ffurfio ffin ddeheuol Dyffryn Nantlle.
Gan ddechrau gerllaw Rhyd-Ddu, mae Crib Nantlle yn cynnwys y bryniau canlynol: Y Garn (633m), Mynydd Drws-y-Coed (695m), Trum y Ddysgl (709m), Mynydd Tal-y-Mignedd (653m), Craig Cwm Silyn (734m), Garnedd-goch (701m) a Mynydd Craig Goch (609m).
Mae Crib Nantlle yn le gwych i gerdded, gan fod llawer llai o gerddwyr a dringwyr yma nag yn y rhannau mwyaf poblogaidd o Eryri megis Yr Wyddfa neu Tryfan. Gellir cerdded y grib o'r ddau ben, ond cychwyn o Ryd-Ddu yw'r dull mwyaf poblogaidd. Er nad yw'r grib yn anodd iawn yn dechnegol, mae angen gofal mewn mannau.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Terry Marsh (1993) The summits of Snowdonia (Robert Hale) ISBN 0-7090-5248-0