Dmitri Mendeleev
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Dmitri Ivanovich Mendeleev (8 Chwefror 1834, Tobolsk, Rwsia - 2 Chwefror 1907, St Petersburg, Rwsia).
Cemegwr o Rwsia oedd Dmitri Mendeleev. Mae e'n cael y clod am ddatblygu'r fersiwn gyntaf o dabl cyfnodol yr elfennau cemegol. Yn wahanol i gemegwyr eraill, defnyddiodd Mendeleev ei dabl i ragfynegi priodweddau cemegol elfennau anhysbys. Profwyd ei ragfynegiadau'n gywir gan ddarganfyddiadau'r elfennau hyn ac astudiaethau o'u priodweddau.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Bywyd
Cafodd Mendeleev ei eni yn Tobolsk, Siberia, i Ivan Pavlovich Mendeleev a Maria Dmitrievna Mendeleeva (nee Kornilieva). Nid oes sicrwydd, ond mae'n debygol mai Mendeleev oedd y 13eg o 17 o blant. Roedd ei rieni yn perchen ar ffatri cynhyrchu gwydr, ac wrth weithio yna magwyd ei ddiddordeb cynnar yng nghemeg, ac yn 13 dechreuodd ef fynychu'r gymnasium yn Tobolsk.
Collodd ef ei dad yn gynnar, ac yn 1849, symudodd y teulu i St Petersberg, lle ddechreuodd y Mendeleev ifanc astudio yn y brif athrofa bedagogaidd. Ar ôl iddo ennill ei radd, dioddefodd o salwch arw, ac fe symudodd i'r Crimea i weithio fel athro gwyddoniaeth yn y gymnasium lleol. Yn 1857, ar ôl iddo wella, cafodd gyfle i ddychwelyd i St Petersberg, cyn treulio cyfnod yn yr Almaen ym mhrifysgol Heidelberg.
Yn 1862, fe briododd Feozva Nikitichna Leshcheva, cyn ennill swydd fel athro prifysgol yn athrofa dechnolegol a phrifysgol St Petersburg. Erbyn 1871, roedd ei waith wedi llwyddo i wneud St Petersberg yn ganolfan fyd-enwog am ymchwil cemegol. Dechreuodd ei obsesiwn gyda Anna Ivanovna Popova yn 1876, ac erbyn 1881 roedd e wedi gofyn iddi ei briodi. Priododd y ddau mis cyn i ysgariad Mendeleev o'i wraig gyntaf ddod yn swyddogol. Roedd ei ddwywreigiaeth yn sgandal fawr, ac mae'n debyg mai hyn achosodd ei fethiant i gael brodoriaeth yn academi gwyddonol Rwsia, er iddo fod yn wyddonydd byd-enwog.
Cafodd Mendeleev fab a merch o'i briodas gyntaf, sef Volodya ac Olga. Daeth ei ferch o'i ail briodas, Lyubov, yn wraig i'r cerddor Aleksander Blok, gydag Anna hefyd yn rhoi mab a phâr o efeilliaid iddo.
Ar ôl bron deg ar hugain mlynedd yn St Petersberg, wnaeth Mendeleev ymddiswyddo yn 1890. Yn 1893 cafodd ei benodi'n bennaeth ar yr swyddfa bwyso a mesur. Yno gwnaeth lawer o waith ar gynhwysion olew a arweiniodd at sefydliad y burfa olew gyntaf yn Rwsia. Fe fu marw Mendeleev o'r ffliw yn 1907 yn St Petersburg. Cafodd yr elfen Mendeleefiwm (rhif 101) a crater Mendeleev ar y lleuad eu henwi ar ei ôl.
[golygu] Gwaith
[golygu] Tabl cyfnodol yr elfennau
Ysgrifennodd Mendeleev ei lyfr 'Egwyddorion Cemeg' fel ddwy gyfrol tra oedd yn athro yn St Petersberg rhwng 1868 a 1870. Yn ystod ei waith, gwelodd batrymau ymysg yr elfennau cemegol. Y patrymau hyn a arweiniodd at ei dabl cyfnodol. Roedd ei waith yn debyg i waith gan wyddonwyr eraill, fel John Newlands ('Y ddeddf wythfedau', 1864) a gwaith Lothar Meyer ar 28 elfen yn 1864. Y gwahaniaeth rhwng eu gwaith nhw a gwaith Mendeleev oedd ei lwyddiant wrth ragfynegi priodweddau elfennau newydd. Y gallu i wneud rhagfynegiadau yw un o gryfderau'r tabl cyfnodol.
Er mwyn datblygu'r tabl, trefnodd Mendeleev yr elfennau yn nhrefn eu masau atomig, gan weld y patrymau canlynol:
- Mae gan elfennau sy'n dangos priodweddau cemegol cyffelyb fasau atomig tebyg, neu rhai sy'n cynyddu mewn camau rheolaidd.
- Pan drefnir y grwpiau yn nhrefn eu masau atomig, gwelir patrwm amlwg yn falensi'r atomau.
- Gwelir y gwahaniaethau mwyaf rhnwg elfennau gyda masau atomig bach.
- Mae'r mas atomig yn rheoli cymeriad yr atom, mewn modd tebyg i effaith mas moleciwl ar gymeriad cyfansoddyn.
- Dylid disgwyl i elfennau newydd gael eu darganfod i lenwi bylchau a adawyd yn y tabl, er enghraifft elfennau sydd yn aelodau o'r un grwpiau â silicon ac alwminiwm. Galwodd Mendeleev y rhain yn eka-silicon ac eka-alwminiwm.
- Bydd rhaid cyfnewid lleoliadau rhai elfennau ar sail eu priodweddau cemegol, ac awgrymodd fod y mas atomig yn anghywir. Heddiw rydym yn ymwybodol mai rhif atomig ac nid mas atomig sy'n rheoli trefn yr elfennau.
- Gellid rhagfynegi rhai priodweddau elfen gemegol o'i lleoliad yn y tabl cyfnodol.
Cyflwynodd Mendeleev ei syniadau i Gymdeithas Gemegol Rwsia ar 6 Mawrth, 1869, ychydig fisoedd cyn i Meyer gyflwyno tabl tebyg iawn. Rhagfynegiadau Mendeleev o briodweddau eka-silicon (germaniwm), eka-alwminiwm (galiwm) ac eka-boron (scandiwm) sy'n gwneud ei waith yn allweddol i ddatblygiad cemeg.
[golygu] Cyfraniadau eraill
- 1869: Mendeleev yw un o'r gwyddonwyr sy'n sefydlu Cymdeithas Gemegol Rwsia.
- 1902: Mendeleev yn awgrymu fod yna nwyon anadweithiol o'n hamgylch. Yn anffodus, credodd fod ganddynt fasau atomig llai na hydrogen.
- Yn ystod astudiaethau o effeithiau gwres ar hylif awgrymodd fod pwynt critigol i bob sylwedd, lle bo'r cydlyniad yn hafal i'r enthalpi anweddiad.
- Datblygodd pyrocollodion fel deunydd ffrwydrol ar gyfer lluoedd arfog Rwsia.
[golygu] Cysylltiadau allanol
[golygu] Bywyd
- Bywgraffiad gan Roger Rumppe a Michael E. Sixtus, rhan o raglen arweiniad Woodrow Wilson yng nghemeg. 20 ffynhonell.
[golygu] Tabl Cyfnodol
- Tabl Cyfnodol Gwreiddiol, arnodwyd
- Drafft cyntaf y Tabl Cyfnodol gan Mendeleev, 17 Chwefror 1869
[golygu] Eraill
- Cysylltiadau ar fywyd a gwaith Mendeleev.
- Darlith Faraday gan Mendeleev, 4 Gorffenaf, 1889, arnodwyd
- Mendeleev a Sanskrit
- Proffil Mendeleev yn thinkgquest.org
- Dmitry Ivanovich Mendeleyev yn BGSU
- Dmitri Ivanovich Mendeleev erthygl fel ran o h2g2.
- Pwy oedd Dmitri Mendeleev?