Gwlad
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Yn naearyddiaeth wleidyddol a gwleidyddiaeth ryngwladol, mae gwlad yn diriogaeth ddaearyddol. Caiff ei diffinio'n aml fel cenedl (bro ddiwylliannol) a gwladwriaeth (bro wleidyddol). Yn nhermau cydnabyddiaeth swyddogol ar lefel ryngwladol, yn arbennig ar gyfer aelodaeth lawn o'r Cenhedloedd Unedig, rhoddir y flaenoriaeth i'r ystyr gwleidyddol (er enghraifft, ni chânt Cymru, Lloegr na'r Alban eu hystyried fel gwledydd yn yr ystyr gwleidyddol fel rheol: maent yn genhedloedd o fewn gwladwriaeth sofranaidd y Deyrnas Unedig, er nad yw'r Deyrnas Unedig ei hun yn genedl).
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.