Gwyddor gwybodaeth
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Disgyblaeth academaidd a maes cyd-ddisgyblaethol sy'n ymwneud â chynhyrchiad, casgliad, trefniadaeth, storfa, adalwad, a lledaeniad gwybodaeth cofnodedig yw gwyddor gwybodaeth. Mae'n astudio cymhwysiad a defnydd gwybodaeth o fewn cyfundrefnau, a'r rhyngweithiad rhwng pobl, cyfundrefnau, a systemau gwybodaeth. Yn aml, astudir gwyddor gwybodaeth fel cangen o gyfrifiadureg neu wybodeg ac mae ganddo berthynas agos â'r gwyddorau cymdeithas a gwybyddol.
Mae gwyddor gwybodaeth yn canolbwyntio ar ddealltwriaeth problemau yn gyntaf, ac yna cymhwyso technoleg gwybodaeth (neu dechnolegau eraill) fel bo'r angen. Mae sylw wedi cael ei roi ym mlynyddoedd diweddar i ryngweithiad dynol-cyfrifiadurol, cylchwedd, y we semantig, a'r ffyrdd mae pobl yn cynhyrchu, defnyddio a darganfod gwybodaeth.
Weithiau caiff gwyddor gwybodaeth ei chymysgu â llyfrgellyddiaeth, cyfrifiadureg, gwybodeg, a theori gwybodaeth, ac yn aml caiff ei grwpio gyda un o'r pynciau yma (gan amlaf llyfrgellyddiaeth, neu gyfrifiadureg).
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
Darganfyddir gwreiddiau gwyddor gwybodaeth yn nogfennaeth, maes ag ymddangosodd pan ddatblygwyd cyfrifiaduron digidol yn yr 1940au a chynnar yr 1950au. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd ymddangosodd yr angen i mwyhau trachywiredd a dyfnder chwiliadau llyfryddiaethol, ag arweiniodd at ymdrechion i newid dulliau traddodiadol o ddosbarthiad yn systemau cyfrifiadur-gytûn. Cyflwynwyd chwilio awtomataidd ffeiliau, mynegeio cydgysylltiedig, a geirfâu rheoledig fel ymateb i'r angen cynyddol i greu mynediad hawdd i gynnwys cylchgronau gwyddonol. Cafodd crynodebau awtomataidd o ddogfenni eu datblygu i symleiddio mynediad i ddarganfyddiadau ymchwil mwy fyth.
Yn yr 1960au trosglwyddwyd casgliadau enfawr o ddogfenni i gronfeydd data neu ffurfiau di-argraffedig, lle gall chwilio trwy'r holl wybodaeth gan ddefnyddio cyfrifiadur. Erbyn 1980 roedd gwyddor gwybodaeth yn faes cyd-ddisgyblaethol, ac yn ddiweddar mae meysydd megis deallusrwydd artiffisial a thecholeg gwybodaeth o fewn addysg wedi dod yn bwysig iawn.
[golygu] Ffynonellau
[golygu] Ffynonellau trydyddol
- Microsoft Encarta Encyclopedia Standard 2005
[golygu] Gweler hefyd
- Cyfrifiadureg
- Gwybodeg
- Llyfrgellyddiaeth
- Theori gwybodaeth