Marwnad
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Ystyr y gair marwnad yn llenyddiaeth Gymraeg yw 'galargan, cerdd yn mynegi galar am berson marw' (marw 'marwolaeth' + nad 'cri, llef'). Cytras yw'r gair Llydaweg marvnad a'r Hen Wyddeleg marbnad. Er y gellir ei ddefnyddio i gyfieithu'r gair Saesneg elegy neu lament, mae'n ffurf arbennig yn y Traddodiad Barddol Cymraeg.
Mae'n ffurf lenyddol hen iawn, ac yn deillio yn ôl pob tebyg o swyddogaeth y beirdd Celtaidd. Ceir sawl ffurf, e.e. 'awdl farwnad', 'cywydd marwnad', 'englynion marwnad', ac ati. Mae'n perthyn i'r canu mawl neu foliant. Ceir nifer o enghreifftiau yng ngwaith Beirdd y Tywysogion a Beirdd yr Uchelwyr.
Gellid canu marwnad i anifail hefyd. Mae gan y bardd enwog Cynddelw Brydydd Mawr 'Farwnad i'w geiliog ei hun', er enghraifft. Yn ddiweddarach roedd rhai o'r cywyddwyr yn hoff o gael tipyn o hwyl ar draul cyd-fardd trwy ganu marwnad ffug ddoniol iddo. Ond ceir sawl enghraifft o farwnadau go-iawn i fardd marw yn ogystal, e.e. gan Cynddelw eto i Fleddyn Fardd.
[golygu] Rhai marwnadau enwog
- Marwnad Gruffudd ap Cynan, Meilyr Brydydd
- Marwnad Dygynnelw, gan Cynddelw Brydydd Mawr i'w fab ifanc
- Marwnad Llywelyn ap Gruffudd, Gruffudd ab Yr Ynad Coch
- Marwnad Ifor a Nest, gan Dafydd ap Gwilym i Ifor Hael a'i wraig
- Marwnad Lleucu Llwyd, gan Llywelyn Goch ap Meurig Hen i'w gariad
- Marwnad Meibion Tudur Fychan, gan Iolo Goch
- Marwnad Tomas ap Rhys o'r Tywyn, gan Dafydd Nanmor i'w noddwr
- Marwnad Syr John Edward Lloyd, gan Saunders Lewis i'r hanesydd
[golygu] Gweler hefyd
- Marwysgafn