Beirdd y Tywysogion
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Arferid cyfeirio at y beirdd llys a ganai yn Oes y Tywysogion fel y Gogynfeirdd ond erbyn heddiw defnyddir yr enw Beirdd y Tywysogion. Mae'r term Gogynfeirdd yn cynnwys rhai o'r beirdd a flodeuai ar ddechrau'r 14eg ganrif yn null traddodiadol Beirdd y Tywysogion; ond serch hynny maen nhw'n perthyn i gyfnod Beirdd yr Uchelwyr pan gollasid nawdd y llysoedd brenhinol mawr.
Fe'u gelwir yn Feirdd y Tywysogion am eu bod, bron yn ddieithriad, yn feirdd uchel eu parch a statws a ganai i dywysogion Cymru yn ystod y cyfnod rhwng dyfodiad y Normaiaid i'r wlad a chwymp Llywelyn ap Gruffudd a'i frawd Dafydd yn ei frwydr dros annibyniaeth Cymru yn erbyn coron Lloegr.
Y cynharaf o'r beirdd hyn oedd Meilyr Brydydd, bardd llys Gruffudd ap Cynan. Ymhlith y beirdd mwyaf yn eu mysg yw Cynddelw Brydydd Mawr, Llywarch ap Llywelyn, Dafydd Benfras, Bleddyn Fardd a Gruffudd ab Yr Ynad Coch a ganodd farwnad rymus i Lywelyn Ein Llyw Olaf. Eithriad i'r drefn oedd Hywel ab Owain Gwynedd, a oedd yn fardd ac yn dywysog ac felly'n rhydd i ddilyn ei drwydded ei hun, a Madog ap Gwallter a oedd yn frawd crefyddol.
Nodweddir gwaith y beirdd hyn oll gan ei fydryddiaeth gymhleth, ei gystrawen arbennig a'i eirfa hynafol.
[golygu] Y beirdd
Sylwer mai beirdd adnabyddus sydd â'u gwaith ar gael heddiw yn unig a nodir yma.
- Meilyr Brydydd (fl. 1100-1147)
- Gwalchmai ap Meilyr (fl. 1130-1180)
- Meilyr ap Gwalchmai (fl. ail hanner y 12fed ganrif)
- Llywelyn Fardd I
- Hywel ab Owain Gwynedd (m. 1170)
- Owain Cyfeiliog (Owain ap Gruffudd ap Maredudd, c.1130-1197)
- Llywarch Llaety (fl. 1140-1160)
- Llywarch y Nam (enw arall ar Llywarch Llaety, efallai)
- Daniel ap Llosgwrn Mew (fl. 1170-1200)
- Peryf ap Cedifor (neu Peryf ap Cedifor Wyddel, fl. 1170)
- Seisyll Bryffwrch (fl. 1155-1175)
- Gwynfardd Brycheiniog (fl. 1176)
- Gwilym Rhyfel (fl. 1174)
- Gruffudd ap Gwrgenau (fl. diwedd y 12fed ganrif)
- Cynddelw Brydydd Mawr (fl. 1155-1200)
- Llywarch ap Llywelyn ("Prydydd y Moch") (fl. 1137-1220)
- Elidir Sais (fl. 1195-1246)
- Einion ap Gwalchmai (fl. 1203-1223)
- Einion Wan (fl. 1230-1245)
- Llywelyn Fardd II
- Philyp Brydydd (fl. 1222)
- Gwgan Brydydd
- Einion ap Gwgan (fl. 1215)
- Gwernen ap Clyddno
- Goronwy Foel (fl. tua chanol y 13eg ganrif)
- Einion ap Madog ap Rhahawd (fl. 1237)
- Dafydd Benfras (fl. 1230-1260)
- Y Prydydd Bychan (c.1220-1270)
- Hywel Foel ap Griffri ap Pwyll Wyddel (c.1240-1300)
- Llygad Gŵr (fl. 1268)
- Iorwerth Fychan
- Madog ap Gwallter (fl. ail hanner y 13eg ganrif)
- Gruffudd ab Yr Ynad Coch (fl. 1280)
- Bleddyn Fardd (fl. 1268-1283)
[golygu] Llyfryddiaeth
- B.F. Roberts a Morfydd E. Owen (gol.), Beirdd a Thywysogion (Caerdydd, 1996). Arolwg cynhwysfawr ond arbennigol ar farddoniaeth llys Cymru, Iwerddon a'r Alban, gyda sylw arbennig ar waith Beirdd y Tywysogion.
- Cyfres Beirdd y Tywysogion: Golygiadau safonol o waith y beirdd llys i gyd, mewn saith cyfrol (Caerdydd, 1991-1996).
- J.E. Caerwyn Williams, The Poets of the Welsh Princes (Caerdydd, 1978). Cyfres The Writers of Wales.
- D. Myrddin Lloyd, Rhai Agweddau ar Ddysg y Gogynfeirdd (Caerdydd, 1976)
- Gwyn Thomas, Y Traddodiad Barddol (Caerdydd, 1976). Pennod 3: "Y Gogynfeirdd".
Beirdd y Tywysogion | |
---|---|
Bleddyn Fardd | Cynddelw Brydydd Mawr | Dafydd Benfras | Daniel ap Llosgwrn Mew | Einion ap Gwalchmai | Einion ap Gwgan | Einion ap Madog ap Rhahawd | Einion Wan | Elidir Sais | Goronwy Foel | Gruffudd ab Yr Ynad Coch | Gruffudd ap Gwrgenau | Gwalchmai ap Meilyr | Gwernen ap Clyddno | Gwgan Brydydd | Gwilym Rhyfel | Gwynfardd Brycheiniog | Hywel ab Owain Gwynedd | Hywel Foel ap Griffri ap Pwyll Wyddel | Iorwerth Fychan | Llygad Gŵr | Llywarch ap Llywelyn | Llywarch Llaety | Llywarch y Nam | Llywelyn Fardd I | Llywelyn Fardd II | Madog ap Gwallter | Meilyr ap Gwalchmai | Meilyr Brydydd | Owain Cyfeiliog | Peryf ap Cedifor | Y Prydydd Bychan | Philyp Brydydd | Seisyll Bryffwrch |