Mynydd Mawr
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mynydd Mawr Eryri |
|
---|---|
![]() |
|
Llun | Mynydd Mawr a Llyn Cwellyn o'r dwyrain |
Uchder | 698m / 2,290 troedfedd |
Gwlad | Cymru |
Mae'r erthygl yma yn delio a'r mynydd yn Eryri. Am y mynydd o'r un enw yng Nghwm Gwendraeth. Sir Gaerfyrddin, gweler Mynydd Mawr (Sir Gaerfyrddin).
Mae Mynydd Mawr yn fynydd yn Eryri yng Ngwynedd. Saif gerllaw Llyn Cwellyn, gyda'r Wyddfa ychydig i'r dwyrain, yr ochr arall i briffordd yr A4085. I'r gorllewin iddo mae Moel Tryfan a Dyffryn Nantlle. Y pentrefi agosaf ato yw Betws Garmon a Rhyd-Ddu.
Gelwir Mynydd Mawr yn "Mynydd yr Eliffant" yn lleol, oherwydd tebygrwydd tybiedig i siâp Eliffant yn gorwedd. Er mai llechweddau gwelltog yw'r rhan fwyaf o'r mynydd, mae creigiau Craig y Bera ar ei ochr ddeheuol a Chraig Cwmbychan ar ei ochr ogleddol.
Gellir ei ddrngo trwy ddilyn llwybr sy'n cychwyn ger fferm Planwydd, ger ochr Rhyd-Ddu o Lyn Cwellyn. Mae hefyd fodd ei ddringo o lwybr sy'n dechrau gerllaw Rhyd-Ddu ei hun. Ceir golygfeydd nodedig iawn o Ddyffryn Nantlle a'r Wyddfa o'r copa.